Mae'r term ESOL (sef English for speakers of other
languages) wedi'i gyfieithu yn Term Cymru (ond dim ond ar statws 5) fel 'Saesneg
ar gyfer Siaradwyr ieithoedd eraill'.
Ga'i awgrymu bod hwn yn derm hurt, achos, er
enghraifft, mae pawb sy'n darllen hwn yn siaradwyr iaith arall, sef Cymraeg. Ond
go brin y byddai arnom angen darpariaeth ESOL. Felly rhois gynnig ar ddweud
'Saesneg fel ail iaith', ond mae'r un peth yn wir i raddau llai am yr ymadrodd
hwnnw.
Dwi wedi Gwglo ac wedi gweld enghraifft o 'Saesneg
i dramorwyr' - ond efallai nad yw bathwyr y term gwreiddiol eisiau eu galw'n
'foreigners' - a hwythau'n aml yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, byddai
hynny efallai'n ymfflamychol.
Felly - be dwi wedi'i roi heno wrth gyfieithu hyn
(yn y Cofnod) ydi 'Saesneg i'r di-Saesneg' - oes
gan bobl farn am hyn o gwbl? Neu awgrymiadau eraill?
Geraint