Y geiriau pwysig yn yn y diffiniad yna, hyd y gwela i, ydi - Contrary to popular belief, this action, usually encoded in a hidden payload, may or may not be actually malicious. Be am eu galw nhw'n syml yn 'gludwyr'? (h.y. cludwyr, nid gludwyr) Cludo rhywbeth arall i mewn, a allai fod yn faleisus ond nid o reidrwydd, y maen nhw. Geraint ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 07, 2008 2:26 PM Subject: Re: ATB: Trojan horse[Spam score: 8%][Scanned] In the context of computing and software, a Trojan horse, also known as a trojan, is a piece of malware which appears to perform a certain action but in fact performs another such as transmitting a computer virus. Contrary to popular belief, this action, usually encoded in a hidden payload, may or may not be actually malicious, but Trojan horses are notorious today for their use in the installation of backdoor programs. Simply put, a Trojan horse is not a computer virus. Unlike such malware, it does not propagate by self-replication but relies heavily on the exploitation of an end-user (see Social engineering). It is instead a categorical attribute which can encompass many different forms of codes. Therefore, a computer worm or virus may be a Trojan horse. The term is derived from the classical story of the Trojan Horse. Gan fod brys a dim cytundeb ynghylch yr *enw*, beth am ddefnyddio *disgrifiad* yn lle enw, e.e. mae rhywun sy'n cario haint yn "cludwr/cariwr", felly byddai "cludwyr ymosodiadau cudd" yn bosibl. Mae TermCymru yn rhoi "meddalwedd faleisus" ar gyfer "malware", felly gellid dweud "meddalwedd sy'n cludo ymosodiadau cudd". Chwi gyfrifiadurwyr fydd yn gwybod a yw'r disgrifiadau hyn yn ddilys, ond os gellir dewis un, fydd ddim cymaint o ots os nad ydych chi'n defnyddio'r union air a ddaw i boblogrwydd wedyn, achos mi fydd y disgrifiad yn berthnasol o hyd. Ann. ----- Original Message ----- From: "Claire Richards" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 07, 2008 2:08 PM Subject: Re: ATB: Trojan horse[Spam score: 8%][Scanned] Wel, mae'n rhaid i mi roi rhywbeth! Dwi'n cyfieithu Telerau ac Amodau gwefan, lle ceir sôn am "computer viruses", "Trojan horses" a "worms". (Sylwer mai'r enw llawn sydd yn y Saesneg). Dwi wedi defnyddio "firysau" a "mwydod" am y cyntaf a'r trydydd, am mai dyna sydd yn y Gronfa Genedlaethol o Dermau. Trosiadol yw'r ddau, ynte? Nid firws fel annwyd na mwydyn fel pry genwair sydd gennym ni fan hyn. Os yw pobl yn deall "firysau" a "mwydod", pam na fyddan nhw'n deall "ceffylau Caerdroea", sydd hefyd yn drosiadol? Neu oes yn rhaid i mi roi "Trojans"? Claire O.N. "Firysau Cyfrifiadurol, Mwydod a Cheffylau Caerdroea" a geir yn Nhelerau ac Amodau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos Sent: 07 July 2008 13:52 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB: Trojan horse[Spam score: 8%][Scanned] 'sgrifennodd Carolyn Iorwerth, > Heblaw am bobl sy'n ymhel â chyfrifiaduron o hyd fyddai fawr neb yn gwybod > beth yw Trojan Horses ychwaith - a gan mai 'Trojans' sy'n cael ei > ddefnyddio > fwyaf erbyn hyn dw i wir ddim yn gweld pwynt cyfieithu rhywbeth sy'n > drosiad > i gyfleu'r syniad o dwyll neu ymosodiad cudd. Yn wir, hyd yn oed i bobl sy'n gweithio yn y maes fel fi, prin iawn dwi'n defnyddio'r term (yn Saesneg). A pryd fasen i'n defnyddio'r term Cymraeg? Byth. Yr unig bobl sy'n debygol o weld a defnyddio'r termau yma o ddydd i ddydd yw cyfieithwyr! Felly ni fyddai 'Ceffyl Troea' yn dod yn gyfarwydd i unrhyw siaradwr Cymraeg cyffredin. Dyma pam fod rhan fwyaf o bobl yn troi i'r fersiwn Saesneg mewn dogfennau technegol. Er mod i'n gyfarwydd a'r syniad o 'trojan horse' yn saesneg, doedd Troea/Caerdroea yn golygu dim i mi. Os oedd e'n cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun o ddiogelwch cyfrifiadurol, mi allwn i fod wedi dyfalu (dim ond am fod 'trojan horse' yn gyfarwydd yn y maes yma). I ddweud y gwir mi fyddai "Ceffyl Pren" yn fwy o gliw i ystyr y term (a dwi ddim yn son am y grwp roc). No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.5/1537 - Release Date: 06/07/2008 05:26