Rwy'n derbyn y ddadl honno i raddau, ond dim ond i raddau. Fy
nghyfiawnhad i yw bod yna rai enwau mae'n swnio'n fwy naturiol i ni eu
cyfieithu na'u gadael yn yr iaith wreiddiol. Er enghriafft, byddwn yn sôn
am Amgueddfa Genedlaethol Cymru, pam felly na allwn ni sôn am Amgueddfa
Genedlaethol yr Alban neu Amgueddfa'r Louvre? Mae'r Almaeneg a'r Iseldireg
ychydig yn wahanol wrth gwrs oherwydd eu tuedd i gyfuno enwau i greu un
gair - e.e. Rijksmuseum (er taw 'Amgueddfa Genedlaethol' yw ystyr hwnnw hefyd)
- ac efallai na fyddai'r un mor naturiol i ni eu cyfieithu nhw, ond lle mae
enw Cymraeg ar le neu sefydliad yn swnio'n naturiol neu'n dod yn reddfol i flaen
y tafod neu'r bysedd, pam na ddylwn ei ddefnyddio?
Hg
Diolch, Huw, dyna'r oeddwn i'n arfer a'i wneud wedyn benderfynais i,
os nad oeddwn i'n newid Musikverein, pam afllwydd newid Lincoln Center sydd a'r
un faint o hawl yn union i fod yn enw adeilad. Fath a Ty Newydd - fasa ni'm yn
disgwyl i hwnna gael ei gyfieithu i Saesneg mewn dogfen does bosib? Hyd y gwela
i, yr unig rai dan ni'n ystyried eu cyfieithu ydi'r rhai Saesneg ond mae Wigmore
Hall ne Scottish Symphony Orchestra ne beth bynnag yn enw'r un mor ddigyfnewid,
ddeudwn i, a Concergebouw. Mi ddois i i'r penderfyniad yma'n dilyn erthygl yn Y
Cymro rai blynyddoedd yn ol - dwi ddim yn cofio'r awdur - ac ers hynny dwi wedi
cadw enwau cerddorfeydd a neuaddau ar eu ffurf wreiddiol, neu wedi'u cyfieithu
i'r Gymraeg am fod yr wyddor yn wahanol (Rwsia) neu am fod enw'r lle/cerddorfa
yn amlwg yn gyfieithiad Saesneg. Annes
2008/7/6 Huw Garan <
[log in to unmask]>:
Cyfieithu'r
enw fydda i'n ei wneud fel arfer, gan ychwanegu esboniad os bydd ei angen e.e.
"Canolfan Lincoln yn Efrog Newydd," Neuadd Albert ac Y Gymdeithas Ffilharmonig
Frenhinol. Fe fydd eithriadau o bryd i'w gilydd ond mae'n gweithio'n
iawn y rhan fwyaf o'r amser.
2008/7/6 annes gruffydd <
[log in to unmask]>:
Be wedyn am sefydliadau ayyb nad ydyn nhw ddim yn Gymraeg? Yn gam neu'n
gymwys dwi'n trin enwa neuadda, cymdeithasa fel enwa priod ee Royal Albert
Hall, Lincoln Center, Royal Philhamonic Society. Os ydi The yn rhan o'r enw
does yna ddim problem os os nad ydi, dwi bob amsar yn cloffi rhwng dau
feddwl pa un ai 'y Royal Albert Hall' ta 'Royal Albert Hall' ddyliwn i'i
ddeud. Faswn i'n falch iawn o ganllaw. Diolch ymlaen llaw
Annes
2008/7/5 Dafydd Lewis <
[log in to unmask]>:
Cwestiwn
syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod
wrth son
am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn
gywirach
hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect'
ill dau.
Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad
Astudiaethau
Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu
defnyddio.
A
oes angen y fannod, ynteu ydi ots?
dafydd
No virus found in this incoming message.
Checked
by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 0.0.0/0 - Release Date:
00:00