Print

Print


Rwy'n derbyn y ddadl  honno i raddau, ond dim ond i raddau.  Fy nghyfiawnhad
i yw bod yna rai enwau mae'n swnio'n fwy naturiol i ni eu cyfieithu na'u
gadael yn yr iaith wreiddiol.  Er enghriafft, byddwn yn sôn am Amgueddfa
Genedlaethol Cymru, pam felly na allwn ni sôn am Amgueddfa Genedlaethol yr
Alban neu Amgueddfa'r Louvre?  Mae'r Almaeneg a'r Iseldireg ychydig yn
wahanol wrth gwrs oherwydd eu tuedd i gyfuno enwau i greu un gair - e.e.
Rijksmuseum (er taw 'Amgueddfa Genedlaethol' yw ystyr hwnnw hefyd) - ac
efallai na fyddai'r un mor naturiol i ni eu cyfieithu nhw, ond lle mae enw
Cymraeg ar le neu sefydliad yn swnio'n naturiol neu'n dod yn reddfol i flaen
y tafod neu'r bysedd, pam na ddylwn ei ddefnyddio?
 
Hg


  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran annes
gruffydd
Anfonwyd/Sent: 06 July 2008 21:13
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: y fannod o flaen enw sefydliad


Diolch, Huw, dyna'r oeddwn i'n arfer a'i wneud wedyn benderfynais i, os nad
oeddwn i'n newid Musikverein, pam afllwydd newid Lincoln Center sydd a'r un
faint o hawl yn union i fod yn enw adeilad. Fath a Ty Newydd - fasa ni'm yn
disgwyl i hwnna gael ei gyfieithu i Saesneg mewn dogfen does bosib? Hyd y
gwela i, yr unig rai dan ni'n ystyried eu cyfieithu ydi'r rhai Saesneg ond
mae Wigmore Hall ne Scottish Symphony Orchestra ne beth bynnag yn enw'r un
mor ddigyfnewid, ddeudwn i, a Concergebouw. Mi ddois i i'r penderfyniad
yma'n dilyn erthygl yn Y Cymro rai blynyddoedd yn ol - dwi ddim yn cofio'r
awdur - ac ers hynny dwi wedi cadw enwau cerddorfeydd a neuaddau ar eu ffurf
wreiddiol, neu wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg am fod yr wyddor yn wahanol
(Rwsia) neu am fod enw'r lle/cerddorfa yn amlwg yn gyfieithiad Saesneg.
Annes


2008/7/6 Huw Garan <[log in to unmask]>:


Cyfieithu'r enw fydda i'n ei wneud fel arfer, gan ychwanegu esboniad os bydd
ei angen e.e. "Canolfan Lincoln yn Efrog Newydd," Neuadd Albert ac Y
Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.  Fe fydd eithriadau o bryd i'w gilydd ond
mae'n gweithio'n iawn y rhan fwyaf o'r amser.


2008/7/6 annes gruffydd <[log in to unmask]>: 


Be wedyn am sefydliadau ayyb nad ydyn nhw ddim yn Gymraeg? Yn gam neu'n
gymwys dwi'n trin enwa neuadda, cymdeithasa fel enwa priod ee Royal Albert
Hall, Lincoln Center, Royal Philhamonic Society. Os ydi The yn rhan o'r enw
does yna ddim problem os os nad ydi, dwi bob amsar yn cloffi rhwng dau
feddwl pa un ai 'y Royal Albert Hall' ta 'Royal Albert Hall' ddyliwn i'i
ddeud. Faswn i'n falch iawn o ganllaw. Diolch ymlaen llaw
 
Annes


2008/7/5 Dafydd Lewis <[log in to unmask]>: 


Cwestiwn syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod
wrth son am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn
gywirach hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect'
ill dau. Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad
Astudiaethau Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu
defnyddio.
A oes angen y fannod, ynteu ydi ots?
dafydd





No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 0.0.0/0 - Release Date: 00:00