Ie ond mae na eithriadau i dy eithriadau! e.e. tribannau Morgannwg (dyna ti ddau ddyblu nn ar ôl -an) Wedyn be am twnel, tenis, penyd. ac wrth gwrs, fel y deudais o'r blaen, Eifionydd a Meirionnydd. ayb, ayb... Geraint O.N. Dwi'n meddwl mai w gytsain ac i gytsain wyt ti'n trio'i ddweud ym mharagraff 2. Cymhlethu pethau ydi son am (g)w(aith), (mar)w(nad) !!!???!!! ----- Original Message ----- From: Rhisiart Hincks To: [log in to unmask] Sent: Friday, July 04, 2008 6:28 PM Subject: dyblu n - bron y cwbl sydd angen ei wybod A. llafariad fer (os oes ffurf unsill, mae'n hawdd gwybod) = nn (pan ychwanegir sillaf) os nad oes reswm arall i'r n beidio â bod yn ddwbl, e.e. 1. heb fod ar ddiwedd y goben, 2. y sain w fel yn (g)w(aith), (mar)w(nad) yn dilyn, neu'r sain i fel yn i(âr), (weith)i(au) yn dilyn, 3. eithriad, fel penderfynaf, amgylchynaf, darllenaf, dilynaf, canlynaf, erlynaf, -siwn > --siynau, -an (nid -an yr amrywiad tafodieithiol ar -en) > -anau, pensiynau, teganau etc.) B. llafariad hir yn y ffurf unsill = n sengl o ychwangeu sillaf ac eithrio sonnir, llunnir, trinnir, cynllunnir, darlunnir, ymdrinnir, felly mae cynllunydd yn rheolaidd. Dyna'r cwbl sydd yn wir bwysig ei wybod. ----- Original Message ----- From: Siân Roberts To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 03, 2008 10:15 PM Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau Pam "carafanau (sic)"? Mae gen i ryw gof i DJ Bowen ddweud mewn darlith yn y coleg slawer dydd bod "carafanau" a "carafannau" yn iawn - ydi e'n dweud yn Llyfr yr Orgraff? Mae'n ddrwg gen i godi'r busnes Urdd Gwyrdd eto ond, i mi, yr ystyr yw "Sefyllfa - Gwyrdd" fel "Urdd - Gwyrdd". Byddai "Sefyllfa Werdd", "Sefyllfa Goch, "Sefyllfa Felen" yn hollol hurt! Byddai gair gwrywaidd am "sefyllfa" yn well ond mae'n ddealladwy fel y mae. On 3 Jul 2008, at 15:42, Claire Richards wrote: Dwi’n meddwl y bydd yn rhaid i ni anghofio am dreiglo a/neu genedl geiriau (a sawl peth arall). Welsoch chi hyn ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y dudalen sy’n sôn am y Maes Carafanau (sic) a Gwersylla? “Gweithredir sustem ar gyfer cerbydau sydd am aros ar y maes, fel â ganlyn: SEFYLLFA GWYRDD: Y tywydd yn iawn - dim peryg o niweidio'r tir. Caniateir i chi symud y car, os yn angenrheidiol. SEFYLLFA MELYN: Y tywydd yn troi, - peryg o niweidio'r tir. Gofynnir i chi beidio symud y car, oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol. SEFYLLFA COCH: Y tywydd yn wael - cerbydau yn achosi difrod i'r caeau.” http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=114 Claire