Cwestiwn syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod wrth son am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn gywirach hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect' ill dau. Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad Astudiaethau Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu defnyddio. A oes angen y fannod, ynteu ydi ots? dafydd