A.
llafariad fer (os oes ffurf unsill, mae'n hawdd gwybod) = nn (pan ychwanegir sillaf)
os nad oes reswm arall i'r n
beidio â bod yn ddwbl, e.e.
1. heb fod ar ddiwedd y goben,
2. y sain w fel yn
(g)w(aith), (mar)w(nad) yn dilyn, neu'r sain i
fel yn i(âr), (weith)i(au) yn dilyn,
3. eithriad, fel penderfynaf, amgylchynaf, darllenaf, dilynaf, canlynaf, erlynaf, -siwn > --siynau, -an (nid -an yr amrywiad tafodieithiol ar
-en) > -anau, pensiynau, teganau etc.)
B. llafariad hir yn y
ffurf unsill = n sengl o ychwangeu sillaf
ac eithrio sonnir,
llunnir, trinnir,
cynllunnir, darlunnir,
ymdrinnir, felly mae cynllunydd yn rheolaidd.
Dyna'r cwbl sydd yn wir bwysig ei
wybod.
----- Original Message -----
Sent: Thursday, July 03, 2008 10:15
PM
Subject: Re: Treiglo a chenedl
geiriau
Pam "carafanau (sic)"? Mae gen i ryw gof i DJ Bowen
ddweud mewn darlith yn y coleg slawer dydd bod "carafanau" a "carafannau" yn
iawn - ydi e'n dweud yn Llyfr yr Orgraff?
Mae'n ddrwg gen i godi'r busnes Urdd Gwyrdd eto ond, i mi, yr ystyr yw
"Sefyllfa - Gwyrdd" fel "Urdd - Gwyrdd".
Byddai "Sefyllfa Werdd", "Sefyllfa Goch, "Sefyllfa Felen" yn hollol hurt!
Byddai gair gwrywaidd am "sefyllfa" yn well ond mae'n ddealladwy fel y
mae.
On 3 Jul 2008, at 15:42, Claire Richards wrote:
Dwi’n meddwl y bydd yn rhaid i ni anghofio am dreiglo a/neu genedl
geiriau (a sawl peth arall).
Welsoch chi hyn ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y dudalen
sy’n sôn am y Maes Carafanau (sic) a Gwersylla?
“Gweithredir sustem ar gyfer cerbydau sydd am aros ar y maes, fel â
ganlyn:
SEFYLLFA GWYRDD: Y tywydd yn iawn -
dim peryg o niweidio'r tir.
Caniateir i chi symud y car, os
yn angenrheidiol.
SEFYLLFA MELYN: Y tywydd yn troi, -
peryg o niweidio'r tir.
Gofynnir i chi beidio symud y
car, oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol.
SEFYLLFA COCH: Y tywydd yn wael -
cerbydau yn achosi difrod i'r caeau.”
Claire