Print

Print


A. llafariad fer (os oes ffurf unsill, mae'n hawdd gwybod) = nn (pan ychwanegir sillaf)

os nad oes reswm arall i'r n beidio â bod yn ddwbl, e.e. 

1. heb fod ar ddiwedd y goben, 

2. y sain w fel yn (g)w(aith), (mar)w(nad) yn dilyn, neu'r sain i fel yn i(âr), (weith)i(au) yn dilyn, 

3. eithriad, fel penderfynaf, amgylchynaf, darllenaf, dilynaf, canlynaf, erlynaf, -siwn > --siynau, -an (nid -an yr amrywiad tafodieithiol ar -en) > -anau, pensiynau, teganau etc.)

B. llafariad hir yn y ffurf unsill = n sengl o ychwangeu sillaf 

ac eithrio sonnir, llunnir, trinnir, cynllunnir, darlunnir, ymdrinnir, felly mae cynllunydd yn rheolaidd.

Dyna'r cwbl sydd yn wir bwysig ei wybod.


  ----- Original Message ----- 
  From: Siân Roberts 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Thursday, July 03, 2008 10:15 PM
  Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau


  Pam "carafanau (sic)"?  Mae gen i ryw gof i DJ Bowen ddweud mewn darlith yn y coleg slawer dydd bod "carafanau" a "carafannau" yn iawn - ydi e'n dweud yn Llyfr yr Orgraff?


  Mae'n ddrwg gen i godi'r busnes Urdd Gwyrdd eto ond, i mi, yr ystyr yw "Sefyllfa - Gwyrdd"  fel "Urdd - Gwyrdd".
  Byddai "Sefyllfa Werdd", "Sefyllfa Goch, "Sefyllfa Felen" yn hollol hurt!  Byddai gair gwrywaidd am "sefyllfa" yn well ond mae'n ddealladwy fel y mae.






  On 3 Jul 2008, at 15:42, Claire Richards wrote:


    Dwi’n meddwl y bydd yn rhaid i ni anghofio am dreiglo a/neu genedl geiriau (a sawl peth arall).

    Welsoch chi hyn ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y dudalen sy’n sôn am y Maes Carafanau (sic) a Gwersylla?

    “Gweithredir sustem ar gyfer cerbydau sydd am aros ar y maes, fel â ganlyn: 

    SEFYLLFA GWYRDD: Y tywydd yn iawn - dim peryg o niweidio'r tir. 
    Caniateir i chi symud y car, os yn angenrheidiol. 
    SEFYLLFA MELYN: Y tywydd yn troi, - peryg o niweidio'r tir. 
    Gofynnir i chi beidio symud y car, oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol. 
    SEFYLLFA COCH: Y tywydd yn wael - cerbydau yn achosi difrod i'r caeau.”

    http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=114

    Claire