Onid yw "yn ystod y gwyliau" ac "yn ystod y tymor" yn iawn? Ydi "yn ystod y lleoliad gwaith" yn wahanol? Dw i'n meddwl bod "profiad gwaith" a "lleoliad gwaith" yn gallu bod yn ddau beth gwahanol. Beth am rywbeth fel: • NO SICKNESS/ABSENCE SHOULD BE MADE UP DURING THE PLACEMENT Ni ddylid gweithio oriau yn ystod y lleoliad yn lle rhai a gollwyd oherwydd salwch/absenoldeb ? Mae'r Saesneg yn swnio dipyn fel "Peidiwch ag esgus bod yn sâl yn ystod y lleoliad"! On 4 Jul 2008, at 12:43, Ieuan Bryn wrote: > Onid perthyn i fyd amser y mae ymadrodd fel ‘yn ystod’? > > Mae ‘yn ystod lleoliad’ yn swnio’n chwithig i mi... > > Dyna pam fy mod yn awgrymu defnyddio ‘Cyfnod Profiad Gwaith’ am ‘Work > Placement’ yn hytrach na ‘Lleoliad Gwaith’ (Work Location). > > Mae ‘yn ystod cyfnod profiad gwaith’ yn iawn, i ‘nghlust i! > > > Ieuan > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint > Lovgreen > Sent: 04 July 2008 11:57 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: make up for > > Ni ddylid gwneud iawn am salwch/absenoldeb yn ystod y lleoliad? > > ----- Original Message ----- > From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Friday, July 04, 2008 9:51 AM > Subject: make up for > > > • NO SICKNESS/ABSENCE SHOULD BE MADE UP DURING THE PLACEMENT > > Taflen cyfarwyddiadau i nyrsys dan hyfforddiant ar leoliad mewn > ysbyty. > HY os ydynt yn sâl neu'n absennol am ddiwrnod ni ddylent gynnig > gwneud diwrnod arall yn ei le. (Mae'n debyg bod modd gweithio'r > oriau a > gollwyd ar ddiwedd y cwrs) Ond sut mae dweud hynny'n gryno yn Gymraeg. > Mae arna i ofn y byddwn yn dweud ar lafar 'gwneud i fyny am' ond a > fyddai hynny'n dderbyniol? Beth sy gen i ar hyn o bryd ydy > > • NI DDYLID GWEITHIO ORIAU YCHWANEGOL AR ÔL SALWCH/ABSENOLDEB YN > YSTOD Y > LLEOLIAD ond dydy hynna ddim yn cyfleu'n union yr un ystyr. > > Dw i'n siwr bod yna ateb hawdd ac amlwg i hyn ond mae'n ddydd > Gwener ar > ddiwedd wythnos hir iawn.... > > Diolch ymlaen llaw. > -- > Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> > > Uned Gyfieithu/Translation Unit > Canolfan Bedwyr > Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor > > -- > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar > unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, > rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a > gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i > hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn > Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu > bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu > 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn > nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract > rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa > Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk > > This email and any attachments may contain confidential material and > is solely for the use of the intended recipient(s). If you have > received this email in error, please notify the sender immediately > and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you > must not use, retain or disclose any information contained in this > email. Any views or opinions are solely those of the sender and do > not necessarily represent those of the Bangor University. > Bangor University does not guarantee that this email or > any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless > expressly stated in the body of the text of the email, this email is > not intended to form a binding contract - a list of authorised > signatories is available from the Bangor University Finance > Office. www.bangor.ac.uk