Print

Print


Byddai awgrym Geraint, neu golon ar ol "sefyllfa" yn datrys y broblem.
 
Carafan[n]au
Pwynt llawer llai pwysig nag "Urdd Gwyrdd" yw hwn, a gosod y ffeithiau a gofyn cwestiwn ydw i, yn hytrach na dadlau achos:
 
Beth amser yn ol, anfonsom at Ganolfan Bedwyr i ofyn pam oedd lluosog "carafa/n" a^ dwy "n" yn Cysill.  Dyma'r ateb a gefais gan Menna Morgan, a oedd yn gweithio yno ar y pryd:
040701: carafannau: mae Delyth yn mynnu ein bod ni'n dilyn "Orgraff yr Iaith" a 'carafannau' sydd yn hwnnw. Gofynnodd Helen Smith, sy'n cyfieithu yn y Brifysgol, paham ein bod ni'n cynnig 'carafannau' yn lle 'carafanau'.
Efallai y gwnawn ni newid hwn ...!"
 
Alla i ddim dod ar draws yr union dudalen rwan yn "Orgraff yr Iaith", efallai ei fod mewn argraffiad diweddaraf na'm un innau, ond cofiaf ein syndod.  Byth ers hynny, 'dw i wedi ysgrifennu "carafannau" efo dwy "n", ond gwelaf fod hyn yn "well-kept secret" (fel mae'r rhaglenni teithio'n ei ddweud) ac nad yw hyd yn oed TermCymru yn gwybod amdano!
 
Nodais hefyd y neges hon ar W-T-C:
Eirlys Williams, W-T-C,050517: Mae gen i frith gof i "Enid P." ddweud na ddylid dyblu'r 'n' mewn enwau lluosog oedd yn amlwg wedi tarddu o iaith arall e.e. carafanau a.y.y.b.
 
Efallai dylai fod rhyw benderfyniad cenedlaethol ar ran Cysill a TermCymru (o ddewis, cyn ailgyhoeddi GyrA!).  Os mai un "n" yn unig sydd mewn enwau deddfwriaeth, mae'n mynd i fod yn anodd newid - a beth am berchnogion afleoedd carafan[n]au sydd wedi gwneud ymdrech i barchu'r iaith?
 
Os
Os dymunwn fod yn fanwl gywir, 'roeddwn i'n meddwl bod angen berf ar ol "os", nid dim ond "os yn anghenrheidiol".
 
Ann



----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 03, 2008 3:52 PM
Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau

Wel dyna ni. Mae'r Urdd wedi agor y llifddorau go iawn rwan yndo.
 
Ond o ddifri, dwi ddim yn meddwl bod Gwyrdd, Melyn a Choch yn cael eu defnyddio yn y fan hyn fel ansoddeiriau i ddisgrifo 'sefyllfa'. Mae'n debyg mai defnyddio'r gair "sefyllfa" ydi'r camgymeriad. Mi fasa dweud "GWYRDD: Y tywydd..." ac ati yn gwneud y tro yn iawn.
 
Geraint
 
(carafanau sy'n gywir, gyda llaw, yn ôl GyA)
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Claire Richards
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 03, 2008 3:42 PM
Subject: Treiglo a chenedl geiriau

Dwi’n meddwl y bydd yn rhaid i ni anghofio am dreiglo a/neu genedl geiriau (a sawl peth arall).

 

Welsoch chi hyn ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y dudalen sy’n sôn am y Maes Carafanau (sic) a Gwersylla?

 

“Gweithredir sustem ar gyfer cerbydau sydd am aros ar y maes, fel â ganlyn:

SEFYLLFA GWYRDD: Y tywydd yn iawn - dim peryg o niweidio'r tir.
Caniateir i chi symud y car, os yn angenrheidiol.
SEFYLLFA MELYN: Y tywydd yn troi, - peryg o niweidio'r tir.
Gofynnir i chi beidio symud y car, oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol.
SEFYLLFA COCH: Y tywydd yn wael - cerbydau yn achosi difrod i'r caeau.”

 

http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=114

 

Claire



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.134 / Virus Database: 270.4.4/1532 - Release Date: 03/07/2008 08:32