Does dim angen/eisiau bod yn athrylith (/yn ben mawr/yn fawr o ben/rhyw lawer o frêns?) i wneud/deall hyn (ymadrodd mwy naturiol, efallai?) Does dim byd cymhleth ynghylch/ynglyn â (gwneud/deall) hyn Dyw e/hyn/Dydy o/hyn ddim yn anodd/Does dim byd haws, achan/w/ban/sti/gwlei/decini Fe wnei di hyn whap/mewn chwinciad/yn ddigon rhwydd (a didrafferth) Chei di ddim broblem i/wrth wneud hyn/ei wneud e/o Mae hyn yn ddigon syml (gan roi 'twt (lol/y baw)', 'wir yr' neu ryw ymadrodd tebyg o'i flaen i fychanu neu leddfu ofnau'r sawl y cyfeirir y sylw ato/ati) Gall unrhyw ffwl wneud hyn (gan ychwanegu, o bosib, ryw sylw fel 'a dwyt ti ddim yn ffwl' yn ôl y cyd-destun) Mae gen ti ddigon o ben i wneud hyn Berwyn ----- Original Message ----- From: Rhian Jones To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 03, 2008 6:44 AM Subject: Re: rocket science Fues i'n crafu mhen yn hir iawn ynglyn â hwn chydig wythnosau yn ôl. Rois i 'Nid yw'n wyddor ddyrys' yn y diwedd achos mod i wedi'i weld o gan rywun arall, ond dw i'n licio 'Nid oes angen athrylith i ddeall hyn'. Rhian ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.3/1529 - Release Date: 01/07/2008 19:23