Cefais i rywbeth theatraidd yn ddiweddar, am gantores o'r Alban oedd, meddid, yn nodedis am ei melting vocals and towering romanticism. Teimlais awydd cryf i fod yn rhywle arall, ac fe roeddwn i'n edifaru'n sicr fy mod wedi gwneud camgymeriad dybryd drwy godi y bore hwnnw. Gwrthsefais y temtasiwn i ysgrifennu lleisiolion tawdd a rhamantiaeth aruthrol, a gwrando ar gwpl bach o glipiau sain ohoni ar y We. Fe swniai hi i fi yn fath o fersiwn Gelyddonaidd o Gwyneth Glyn, ac roedd hi'n hoff iawn o ganu stwff Rabbie Burns. Wedi meddwl ychydig, cyfieithiais y dywededig ddywediad fel mae hi'n canu am serch mewn llais llyfn, nwydus. Rwy'n dal i bryderu fy mod wedi gwneud camgymeriad o ryw fath, ond ar fy ngwir ni allwn feddwl o ddim byd gwell i'w wneud ar y pryd. 
 

Tim

Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.



This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Non
Sent: 15 July 2008 14:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Multi-award winning

A pamffledi/bymff arddangosfeydd celf e.e., 'The new work will investigate aspects of myth, fantasy and the sublime through a series of paintings and installations, with particular emphasis on the interior landscape of the mind.'
 
Maen nhw'n swnio'n ddw-lal yn Gymraeg, bob tro.
 
 
 
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">john.puw
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 15, 2008 2:48 PM
Subject: Re: Multi-award winning

PR ac Adnoddau Dynol - mae cystadlu brwd rhwng y ddau faes o safbwynt pwy sy'n defnyddio'r mwyaf o grapeiriau!

Sent using BlackBerry� from Orange


From: Claire Richards <[log in to unmask]>
Date: Tue, 15 Jul 2008 14:42:25 +0100
To: <[log in to unmask]>
Subject: Re: Multi-award winning

Sdim ots gen i ei fod e’n grapair – mae’n arbed i mi orfod teipio “sydd wedi ennill gwobrau lu” neu “a enillodd sawl gwobr” a pethau felly.  Dyw e ddim fel pe bai pobl yn dweud “award-winning” ar lafar yn Saesneg – peth PR yw e.  A byddwn i’n dweud mai byd PR yw cynefin naturiol crapeiriau.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 15 July 2008 14:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Multi-award winning[Spam score: 8%][Scanned]

 

Ydi, mae o'n un o grapeiriau'r Gymraeg, a deud y gwir.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Non

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, July 15, 2008 2:10 PM

Subject: Re: Multi-award winning

 

Swn i'n rhoi rhywbeth fel:

 

'Buodd sioe gerdd 'My Fair Lady' gan Lerner and Lowe yn llwyddiant ysgubol ar lwyfannau Efrog Newydd a Llundain ac enillodd sawl gwobr.'

 

Wedi clywed llawer o bobol yn diawlio'r gair 'arobryn'!

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Meinir Thomas

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, July 15, 2008 2:02 PM

Subject: Re: Multi-award winning

 

Diolch ichi gyd am eich help. :)

 

Cofion gorau,

 

Meinir xx

Elin Davies <[log in to unmask]> wrote:

Arobryn dwi wedi ddefnyddio mewn sefyllfaoedd tebyg, neu mawr ei bri/fri.

Elin

2008/7/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:

"arobryn" yn air sy'n cael ei ddefnyddio weithiau yn yr ystyr yma

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>annes gruffydd

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]

Sent: Tuesday, July 15, 2008 11:11 AM

Subject: Re: Multi-award winning

 

Y ddrama gerdd fawr/aml ei gwobr(au) faswn i'n ddeud

 

Annes

2008/7/15 Meinir Thomas <[log in to unmask]>:

Helo!

 

Tybed a fedrwch chi'n helpu i? Oes rhywun yn gwybod beth fyddai'r ffordd orau o gyfieithu "multi-award winning"?

 

Dyma'r frawddeg: "Lerner and Lowe's multi-award winning musical 'My Fair Lady' became one of the greatest successes of the New York and London stages."

 

Diolch! :D

 

Cofion gorau,

 

Meinir


Not happy with your email address?
Get the one you really want - millions of new email addresses available now at Yahoo!

 

 



MeinirAnnThomas


Not happy with your email address?
Get the one you really want - millions of new email addresses available now at Yahoo!