Print

Print


Diolch bawb, ti'n iawn Geraint mi ddaru mi ateb y nghwestiwn fy hun heb feddwl. Gyda llaw, rhan nesa marathon cofiant Meic Stevens ar y gweill - tro dwytha ges i air efo fo mi soniodd am 'only another about eight chapters to do' ac roedd hynny rai penoda'n ol felly ella down ni i'r lan cyn diwadd y flwyddyn!
 
Annes

2008/7/7 Mary Jones <[log in to unmask]>:

A beth wnewch chi â Royal Festival Hall? O geisio'i gyfieithu, a fyddech chi'n dweud 'Neuadd Frenhinol yr Ŵyl / Y Neuadd Ŵyl Frenhinol'? Ynte Gŵyl Prydain / yr Ŵyl Brydeinig (os Festival of Britain oedd y rheswm dros ei hadeiladu)? Dyna pam na fydda inne chwaith byth yn ceisio creu fersiwn Gymraeg o enwau fel The Royal Philhamonic Society, nid am nad yw'n bosib creu fersiwn Gymraeg hollol ddealladwy a diamwys, ond am mai The Royal Philharmonic Society / The Lincoln Center etc yw eu teitlau nhw. Yr un fath gyda'r Concertgebouw, Mozarteum etc.  A beth wnewch chi â'r Gewandhaus? Y broblem rwy'n ei chael bron bob tro yw gweld mod i'n dechre drwy roi cyfieithiad Cymraeg, ond wedyn yn cael problem gyda theitlau nad ydyn nhw'r rhai Saesneg yn weiddiol.

Mary

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of annes gruffydd
Sent: 06 July 2008 22:01

Subject: Re: y fannod o flaen enw sefydliad

 

Ateb ydi hwn i neges ddiwedara Huw nad ydi, am ryw reswm yn ymddangos yma. Dydi Canolfan Lincoln ddim yn teimlo'n naturiol i mi, ac yn sicir tydi Neuadd Frenhinol Albert ddim. LLe aflwydd mae o? Does na neb wedi clwad son amdano erioed. Ond mae mae pawb wedi clwad son am y Royal Albert Hall. Fydda i hyd yn oed yn rhoi L' ayyb o flaen neuadda cyngerdd tramor i'w gwneud nhw'n gywir . taswn i'n cael fy ffordd (ond cha i ddim) fasa popeth yn aros yn yr iaith gysefin (blaw am broblema'r wyddor werth gwrs)

 

Annes

2008/7/6 annes gruffydd <[log in to unmask]>:

Diolch, Huw, dyna'r oeddwn i'n arfer a'i wneud wedyn benderfynais i, os nad oeddwn i'n newid Musikverein, pam afllwydd newid Lincoln Center sydd a'r un faint o hawl yn union i fod yn enw adeilad. Fath a Ty Newydd - fasa ni'm yn disgwyl i hwnna gael ei gyfieithu i Saesneg mewn dogfen does bosib? Hyd y gwela i, yr unig rai dan ni'n ystyried eu cyfieithu ydi'r rhai Saesneg ond mae Wigmore Hall ne Scottish Symphony Orchestra ne beth bynnag yn enw'r un mor ddigyfnewid, ddeudwn i, a Concergebouw. Mi ddois i i'r penderfyniad yma'n dilyn erthygl yn Y Cymro rai blynyddoedd yn ol - dwi ddim yn cofio'r awdur - ac ers hynny dwi wedi cadw enwau cerddorfeydd a neuaddau ar eu ffurf wreiddiol, neu wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg am fod yr wyddor yn wahanol (Rwsia) neu am fod enw'r lle/cerddorfa yn amlwg yn gyfieithiad Saesneg. Annes

2008/7/6 Huw Garan <[log in to unmask]>:

Cyfieithu'r enw fydda i'n ei wneud fel arfer, gan ychwanegu esboniad os bydd ei angen e.e. "Canolfan Lincoln yn Efrog Newydd," Neuadd Albert ac Y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.  Fe fydd eithriadau o bryd i'w gilydd ond mae'n gweithio'n iawn y rhan fwyaf o'r amser.

2008/7/6 annes gruffydd <[log in to unmask]>:

 

Be wedyn am sefydliadau ayyb nad ydyn nhw ddim yn Gymraeg? Yn gam neu'n gymwys dwi'n trin enwa neuadda, cymdeithasa fel enwa priod ee Royal Albert Hall, Lincoln Center, Royal Philhamonic Society. Os ydi The yn rhan o'r enw does yna ddim problem os os nad ydi, dwi bob amsar yn cloffi rhwng dau feddwl pa un ai 'y Royal Albert Hall' ta 'Royal Albert Hall' ddyliwn i'i ddeud. Faswn i'n falch iawn o ganllaw. Diolch ymlaen llaw

 

Annes

2008/7/5 Dafydd Lewis <[log in to unmask]>:

 

Cwestiwn syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod
wrth son am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn
gywirach hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect'
ill dau. Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad
Astudiaethau Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu
defnyddio.
A oes angen y fannod, ynteu ydi ots?
dafydd

 

 

 



--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.