Diolch bawb, ti'n iawn Geraint mi ddaru mi ateb y nghwestiwn fy hun heb feddwl. Gyda llaw, rhan nesa marathon cofiant Meic Stevens ar y gweill - tro dwytha ges i air efo fo mi soniodd am 'only another about eight chapters to do' ac roedd hynny rai penoda'n ol felly ella down ni i'r lan cyn diwadd y flwyddyn! Annes 2008/7/7 Mary Jones <[log in to unmask]>: > A beth wnewch chi â Royal Festival Hall? O geisio'i gyfieithu, a fyddech > chi'n dweud 'Neuadd Frenhinol yr Ŵyl / Y Neuadd Ŵyl Frenhinol'? Ynte Gŵyl > Prydain / yr Ŵyl Brydeinig (os Festival of Britain oedd y rheswm dros ei > hadeiladu)? Dyna pam na fydda inne chwaith byth yn ceisio creu fersiwn > Gymraeg o enwau fel The Royal Philhamonic Society, nid am nad yw'n bosib > creu fersiwn Gymraeg hollol ddealladwy a diamwys, ond am mai The Royal > Philharmonic Society / The Lincoln Center etc yw eu teitlau nhw. Yr un fath > gyda'r Concertgebouw, Mozarteum etc. A beth wnewch chi â'r Gewandhaus? Y > broblem rwy'n ei chael bron bob tro yw gweld mod i'n dechre drwy roi > cyfieithiad Cymraeg, ond wedyn yn cael problem gyda theitlau nad ydyn nhw'r > rhai Saesneg yn weiddiol. > > Mary > > > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *annes gruffydd > *Sent:* 06 July 2008 22:01 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: y fannod o flaen enw sefydliad > > > > Ateb ydi hwn i neges ddiwedara Huw nad ydi, am ryw reswm yn ymddangos yma. > Dydi Canolfan Lincoln ddim yn teimlo'n naturiol i mi, ac yn sicir tydi > Neuadd Frenhinol Albert ddim. LLe aflwydd mae o? Does na neb wedi clwad son > amdano erioed. Ond mae mae pawb wedi clwad son am y Royal Albert Hall. Fydda > i hyd yn oed yn rhoi L' ayyb o flaen neuadda cyngerdd tramor i'w gwneud > nhw'n gywir . taswn i'n cael fy ffordd (ond cha i ddim) fasa popeth yn aros > yn yr iaith gysefin (blaw am broblema'r wyddor werth gwrs) > > > > Annes > > 2008/7/6 annes gruffydd <[log in to unmask]>: > > Diolch, Huw, dyna'r oeddwn i'n arfer a'i wneud wedyn benderfynais i, os nad > oeddwn i'n newid Musikverein, pam afllwydd newid Lincoln Center sydd a'r un > faint o hawl yn union i fod yn enw adeilad. Fath a Ty Newydd - fasa ni'm yn > disgwyl i hwnna gael ei gyfieithu i Saesneg mewn dogfen does bosib? Hyd y > gwela i, yr unig rai dan ni'n ystyried eu cyfieithu ydi'r rhai Saesneg ond > mae Wigmore Hall ne Scottish Symphony Orchestra ne beth bynnag yn enw'r un > mor ddigyfnewid, ddeudwn i, a Concergebouw. Mi ddois i i'r penderfyniad > yma'n dilyn erthygl yn Y Cymro rai blynyddoedd yn ol - dwi ddim yn cofio'r > awdur - ac ers hynny dwi wedi cadw enwau cerddorfeydd a neuaddau ar eu ffurf > wreiddiol, neu wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg am fod yr wyddor yn wahanol > (Rwsia) neu am fod enw'r lle/cerddorfa yn amlwg yn gyfieithiad Saesneg. > Annes > > 2008/7/6 Huw Garan <[log in to unmask]>: > > Cyfieithu'r enw fydda i'n ei wneud fel arfer, gan ychwanegu esboniad os > bydd ei angen e.e. "Canolfan Lincoln yn Efrog Newydd," Neuadd Albert ac Y > Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol. Fe fydd eithriadau o bryd i'w gilydd ond > mae'n gweithio'n iawn y rhan fwyaf o'r amser. > > 2008/7/6 annes gruffydd <[log in to unmask]>: > > > > Be wedyn am sefydliadau ayyb nad ydyn nhw ddim yn Gymraeg? Yn gam neu'n > gymwys dwi'n trin enwa neuadda, cymdeithasa fel enwa priod ee Royal Albert > Hall, Lincoln Center, Royal Philhamonic Society. Os ydi The yn rhan o'r enw > does yna ddim problem os os nad ydi, dwi bob amsar yn cloffi rhwng dau > feddwl pa un ai 'y Royal Albert Hall' ta 'Royal Albert Hall' ddyliwn i'i > ddeud. Faswn i'n falch iawn o ganllaw. Diolch ymlaen llaw > > > > Annes > > 2008/7/5 Dafydd Lewis <[log in to unmask]>: > > > > Cwestiwn syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod > wrth son am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn > gywirach hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect' > ill dau. Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad > Astudiaethau Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu > defnyddio. > A oes angen y fannod, ynteu ydi ots? > dafydd > > > > > > > > > > -- > This message has been scanned for viruses and > dangerous content by *SpamAlizer* <http://www.saq.co.uk/>, and is > believed to be clean. >