Print

Print


Dwi wedi gwneud hyn ddwywaith, a rhaid i mi ddweud mai fy ngreddf i y ddau dro oedd troi at y derbynnydd, ond eto gan gadw'r llais mor isel ag y medrwn (fel wrth gyfieithu ar y pryd mewn bwth ac ati). Roedd y sefyllfaoedd yn lled-anffurfiol, a dwi'n meddwl i'r peth weithio'n iawn. (Y peth diddorol oedd mai'r tro cyntaf, roeddwn yn cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg i gwpl o Batagonia - ac yn ymwybodol iawn o geisio cadw'r geiriau Saesneg allan o 'Nghymraeg!)
 
Wn i ddim os ydi hyn o ryw help, Annes.
 
Meg 

annes gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
Ym mis Hydref dwi'n mynd i briodas yn Rhydychen efo nghariad sy'n Eidalwr nad ydi'n siarad agos i ddim Saesneg. Mewn sefyllfa sgwrs rhyngddo fo a rhywun arall, a minna'n cyfieithu ar y pryd, be ydi'r arferiad? Ai cadw'r pen yn niwtral rhwng y ddau berson fel eu bod nhw'n sbio ar ei gilydd ac yn cael yr argraff eu bod nhw'n sgwrs efo'i gilydd? Ta trosglwyddo'r cyfieithiad gan edrych ar y derbynnydd? Ydi hyn yn gneud sens? Faswn i rywsut yn tueddu at y cynta fel eu bod nhw'n medru teimlo eu bod nhw'n sgwrsio a'i gilydd ac na dydw i ddim yn bod a does arna i ddim isio'u llygad-dynnu nhw achos nid y fi sy'n siarad, ond faswn i'n gwerthfawrogi unrhyw gyngor. Be maen nhw'n neud mewn sefyllfaoedd o'r fath rhwng pobol bwysig? Dwi byth yn gwylio'r teledu felly dwn i ddim. Diolch ymlaen llaw
 
Annes