Roedd mam yn hoff iawn o'r ymadrodd fyw fyd bosib ac os da y cofiaf wedi'i dreiglo y byddai bob amsar, ella am ei fod yn adferfol, dwn i ddim, a dwi'n malio run datan deud y gwir, wedi'i dreiglo y bydda i'n ei ddefnyddio os oes arna i isio cyfleu rhywbeth o'r fath. A deud y gwir, a hitha'n hwyr nos Wenar, weithia fydda i'n meddwl os dyn nhw'n sgwennu iaith mor fratiog ac mos ansbaradigaethus pan ddylian ni chwysu gwaed yn trio cywiro'r bali peth - dwi'n swnio fel John Puw rwan, dyn doeth iawn.
 
Annes

2008/7/25 Osian Rhys <[log in to unmask]>
Annwyl gyfeillion

Fel erioed ar bnawn dydd Gwener, mae'r ymennydd ar stand-by. Nid cwestiwn termau, mae'n ddrwg gen i, ond cwestiwn treiglo:

"y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr bosibl"

sy'n gywir, ie, nid

"y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr posibl"?

Ymddiheuriadau os yw'n gwestiwn gwirion, dw i ddim yn gallu meddwl! A does gen i ddim ewyllys i ddechrau pori yn y llyfr melyn clyfar hwnnw a elwir (yn hollol gamarweiniol) yn PWT...

Diolch yn fawr,

Osian