Annwyl gyfeillion Fel erioed ar bnawn dydd Gwener, mae'r ymennydd ar stand-by. Nid cwestiwn termau, mae'n ddrwg gen i, ond cwestiwn treiglo: "y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr bosibl" sy'n gywir, ie, nid "y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr posibl"? Ymddiheuriadau os yw'n gwestiwn gwirion, dw i ddim yn gallu meddwl! A does gen i ddim ewyllys i ddechrau pori yn y llyfr melyn clyfar hwnnw a elwir (yn hollol gamarweiniol) yn PWT... Diolch yn fawr, Osian