Dw innau'n meddwl mai 'Byth!' ydi'r gorau achos mae'n gallu golygu "Fydda' i byth yn darllen" neu "Wna'i byth ddarllen - no we!" Ac mae'n llai gogleddol na "dim peryg". ----- Original Message ----- From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, July 14, 2008 9:35 AM Subject: Re: Me read? No Way! > Os mai dogfen academaidd yw hi, dw i'n meddwl y byddai > "Dim Peryg" yn iawn. Pe bai'n enw ar gynllun y byddai > disgwyl i'r bobl sy'n gyndyn o ddarllen ymwneud ag ef, > byddai'n well defnyddio rhywbeth mwy niwtral. Dw i'n > hoffi cynnig Berwyn "Byth!" mae hwnnw'n cynnwys de a > gogledd. > > > --- annes gruffydd <[log in to unmask]> wrote: > >> Cynnig ola - sbic nyw of fforefar hold iwar pis. >> >> Fi'n darllen? Dim peryg! >> >> Annes >> >> 2008/7/14 Melanie Davies >> <[log in to unmask]>: >> >> > Bydden ni ddim yn tueddu i ddefnyddio dim peryg >> yn y de ond wedi dweud >> > hynny, fyddai'n ddigon dealladwy i bawb fydden i'n >> meddwl. >> > >> > ----- Original Message ----- >> > *From:* annes gruffydd <[log in to unmask]> >> > *To:* [log in to unmask] >> > *Sent:* Monday, July 14, 2008 9:07 AM >> > *Subject:* Re: Me read? No Way! >> > >> > Oce, os ydi dim ffiars yn rhy ogleddol, be am dim >> peryg? Mae dim gobaith i >> > mi i'w glywed yn gogwyddo fwy tuag at y 'methu' yn >> hytrach na'r 'dim isio' >> > sy'n gryfach yn y ddogfen >> > >> > Annes >> > >> > 2008/7/14 Berwyn Jones >> <[log in to unmask]>: >> > >> >> Ymadrodd gogleddol yw 'dim ffiars'. (Yr ymadrodd >> tafodieithol cyfatebol >> >> yn y de fyddai 'Jiw, jiw!') >> >> >> >> Does dim byd o'i le ar 'dim ffiars' os yw'r >> adroddiad yn un sydd wedi'i >> >> anelu at ddarllenwyr yn y gogledd, ond os yw'n >> adroddiad i Gymru gyfan >> >> byddwn i'n ystyried ymadrodd mwy niwtral - 'dim >> gobeth/gobaith'? >> >> >> >> 'Darllen? Fi?/Fi'n Darllen? Dim Gobaith/Gobeth' >> neu 'Darllen? Fi?/Fi'n >> >> Darllen? Dim Gobaith/Gobeth!' >> >> >> >> Posibilrwydd arall fyddai '((d)dim) byth' - 'Fi'n >> Darllen? Byth!' >> >> >> >> Berwyn >> >> >> >> ----- Original Message ----- >> >> *From:* annes gruffydd <[log in to unmask]> >> >> *To:* [log in to unmask] >> >> *Sent:* Monday, July 14, 2008 8:00 AM >> >> *Subject:* Re: Me read? No Way! >> >> >> >> Diolch John - isio cadarnhad on i na doeddwn i >> ddim yn cymyd cam gwag ne'n >> >> deud rwbath ych a pych >> >> >> >> Annes >> >> >> >> 2008/7/13 john.puw <[log in to unmask]>: >> >> >> >>> Cynnig ardderchog. Mae'n anodd iawn gwella arno >> yn fy marn i. >> >>> >> >>> Hwyl >> >>> >> >>> John >> >>> >> >>> Sent using BlackBerry(R) from Orange >> >>> >> >>> ------------------------------ >> >>> *From*: annes gruffydd <[log in to unmask]> >> >>> *Date*: Sun, 13 Jul 2008 20:45:00 +0200 >> >>> *To*: <[log in to unmask]> >> >>> *Subject*: Me read? No Way! >> >>> >> >>> Dyma deitl y ddogfen am ddarllenwyr sal neu >> sy'n ded na dydyn nhw ddim >> >>> yn ddarllenwyr (diolch, gyda llaw, am yr >> ymatebion i 'non-reeaders'- wedi >> >>> penderfynu deud 'na fyddan nhw ddim yn darllen'. >> Mae'r ddogfen yn son am >> >>> strategaethau i wella medrau darllen bechgyn ond >> hyd y gwela i byrdwn y peth >> >>> ydi bod rhai bechgyn yn cefnu ar ddarllen. Felly >> dyna ddylia fod yn y teitl >> >>> yn hytrach na fedran nhw ddim. Mae'r Saesneg yn >> gallu bod yn mwys wrth gwrs >> >>> a fedran ni ddim. Be dach chi'ei feddwl o'r >> cynnig yma? >> >>> >> >>> Darllen - fi? Dim ffiars! >> >>> >> >>> Dwi wedi rhoi darllen a a fi yn y drefn honno, >> achos fel arall byddai >> >>> angen dau ofynnod ac mi fyddai hynna'n mynd yn >> fler. >> >>> >> >>> Diolch ymlaen llaw am unrhyw syniada mwy bachog >> >>> >> >>> Annes >> >>> >> >>> >> >> No virus found in this incoming message. >> >> Checked by AVG - http://www.avg.com >> >> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.10/1550 >> - Release Date: 13/07/2008 17:58 >> >> >> >> >> > >> >