Print

Print


Mae byth i mi yn swnio mwy fel ffaith (hy fydda i byth yn darllen) yn hytrach nag agwedd (no way). Mi fasa Nefar in Iwrop i'r dim ac yn eich plesio chi Hwntws, ond dydw i ddim ar fedr awgrymu'i ddefnyddio fo! Dogfen ar gyfer athrawon ydi hi, amryw gynigion sut i 'engage' (aaaaaa!) bechgyn mewn darllen.
 
Annes

2008/7/14 SIAN ROBERTS <[log in to unmask]>:
Os mai dogfen academaidd yw hi, dw i'n meddwl y byddai
"Dim Peryg" yn iawn. Pe bai'n enw ar gynllun y byddai
disgwyl i'r bobl sy'n gyndyn o ddarllen ymwneud ag ef,
byddai'n well defnyddio rhywbeth mwy niwtral.  Dw i'n
hoffi cynnig Berwyn "Byth!" mae hwnnw'n cynnwys de a
gogledd.


--- annes gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

> Cynnig ola - sbic nyw of fforefar hold iwar pis.
>
> Fi'n darllen? Dim peryg!
>
> Annes
>
> 2008/7/14 Melanie Davies
> <[log in to unmask]>:
>
> >  Bydden ni ddim yn tueddu i ddefnyddio dim peryg
> yn y de ond wedi dweud
> > hynny, fyddai'n ddigon dealladwy i bawb fydden i'n
> meddwl.
> >
> >  ----- Original Message -----
> > *From:* annes gruffydd <[log in to unmask]>
> > *To:* [log in to unmask]
> >   *Sent:* Monday, July 14, 2008 9:07 AM
> > *Subject:* Re: Me read? No Way!
> >
> > Oce, os ydi dim ffiars yn rhy ogleddol, be am dim
> peryg? Mae dim gobaith i
> > mi i'w glywed yn gogwyddo fwy tuag at y 'methu' yn
> hytrach na'r 'dim isio'
> > sy'n gryfach yn y ddogfen
> >
> > Annes
> >
> > 2008/7/14 Berwyn Jones
> <[log in to unmask]>:
> >
> >>  Ymadrodd gogleddol yw 'dim ffiars'. (Yr ymadrodd
> tafodieithol cyfatebol
> >> yn y de fyddai 'Jiw, jiw!')
> >>
> >> Does dim byd o'i le ar 'dim ffiars' os yw'r
> adroddiad yn un sydd wedi'i
> >> anelu at ddarllenwyr yn y gogledd, ond os yw'n
> adroddiad i Gymru gyfan
> >> byddwn i'n ystyried ymadrodd mwy niwtral - 'dim
> gobeth/gobaith'?
> >>
> >> 'Darllen? Fi?/Fi'n Darllen? Dim Gobaith/Gobeth'
> neu 'Darllen? Fi?/Fi'n
> >> Darllen? Dim Gobaith/Gobeth!'
> >>
> >> Posibilrwydd arall fyddai '((d)dim) byth' - 'Fi'n
> Darllen? Byth!'
> >>
> >> Berwyn
> >>
> >>  ----- Original Message -----
> >> *From:* annes gruffydd <[log in to unmask]>
> >> *To:* [log in to unmask]
> >>   *Sent:* Monday, July 14, 2008 8:00 AM
> >> *Subject:* Re: Me read? No Way!
> >>
> >> Diolch John - isio cadarnhad on i na doeddwn i
> ddim yn cymyd cam gwag ne'n
> >> deud rwbath ych a pych
> >>
> >> Annes
> >>
> >> 2008/7/13 john.puw <[log in to unmask]>:
> >>
> >>> Cynnig ardderchog. Mae'n anodd iawn gwella arno
> yn fy marn i.
> >>>
> >>> Hwyl
> >>>
> >>> John
> >>>
> >>> Sent using BlackBerry(R) from Orange
> >>>
> >>> ------------------------------
> >>> *From*: annes gruffydd <[log in to unmask]>
> >>> *Date*: Sun, 13 Jul 2008 20:45:00 +0200
> >>> *To*: <[log in to unmask]>
> >>> *Subject*: Me read? No Way!
> >>>
> >>>   Dyma deitl y ddogfen am ddarllenwyr sal neu
> sy'n ded na dydyn nhw ddim
> >>> yn ddarllenwyr (diolch, gyda llaw, am yr
> ymatebion i 'non-reeaders'- wedi
> >>> penderfynu deud 'na fyddan nhw ddim yn darllen'.
> Mae'r ddogfen yn son am
> >>> strategaethau i wella medrau darllen bechgyn ond
> hyd y gwela i byrdwn y peth
> >>> ydi bod rhai bechgyn yn cefnu ar ddarllen. Felly
> dyna ddylia fod yn y teitl
> >>> yn hytrach na fedran nhw ddim. Mae'r Saesneg yn
> gallu bod yn mwys wrth gwrs
> >>> a fedran ni ddim. Be dach chi'ei feddwl o'r
> cynnig yma?
> >>>
> >>> Darllen - fi? Dim ffiars!
> >>>
> >>>  Dwi wedi rhoi darllen a a fi yn y drefn honno,
> achos fel arall byddai
> >>> angen dau ofynnod ac mi fyddai hynna'n mynd yn
> fler.
> >>>
> >>> Diolch ymlaen llaw am unrhyw syniada mwy bachog
> >>>
> >>> Annes
> >>>
> >>>
> >> No virus found in this incoming message.
> >> Checked by AVG - http://www.avg.com
> >> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.10/1550
> - Release Date: 13/07/2008 17:58
> >>
> >>
> >
>