Print

Print


Mae byth i mi yn swnio mwy fel ffaith (hy fydda i byth yn darllen) yn
hytrach nag agwedd (no way). Mi fasa Nefar in Iwrop i'r dim ac yn eich
plesio chi Hwntws, ond dydw i ddim ar fedr awgrymu'i ddefnyddio fo! Dogfen
ar gyfer athrawon ydi hi, amryw gynigion sut i 'engage' (aaaaaa!) bechgyn
mewn darllen.

Annes

2008/7/14 SIAN ROBERTS <[log in to unmask]>:

> Os mai dogfen academaidd yw hi, dw i'n meddwl y byddai
> "Dim Peryg" yn iawn. Pe bai'n enw ar gynllun y byddai
> disgwyl i'r bobl sy'n gyndyn o ddarllen ymwneud ag ef,
> byddai'n well defnyddio rhywbeth mwy niwtral.  Dw i'n
> hoffi cynnig Berwyn "Byth!" mae hwnnw'n cynnwys de a
> gogledd.
>
>
> --- annes gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
>
> > Cynnig ola - sbic nyw of fforefar hold iwar pis.
> >
> > Fi'n darllen? Dim peryg!
> >
> > Annes
> >
> > 2008/7/14 Melanie Davies
> > <[log in to unmask]>:
> >
> > >  Bydden ni ddim yn tueddu i ddefnyddio dim peryg
> > yn y de ond wedi dweud
> > > hynny, fyddai'n ddigon dealladwy i bawb fydden i'n
> > meddwl.
> > >
> > >  ----- Original Message -----
>  > > *From:* annes gruffydd <[log in to unmask]>
> > > *To:* [log in to unmask]
> > >   *Sent:* Monday, July 14, 2008 9:07 AM
> > > *Subject:* Re: Me read? No Way!
> > >
> > > Oce, os ydi dim ffiars yn rhy ogleddol, be am dim
> > peryg? Mae dim gobaith i
> > > mi i'w glywed yn gogwyddo fwy tuag at y 'methu' yn
> > hytrach na'r 'dim isio'
> > > sy'n gryfach yn y ddogfen
> > >
> > > Annes
> > >
> > > 2008/7/14 Berwyn Jones
> > <[log in to unmask]>:
> > >
> > >>  Ymadrodd gogleddol yw 'dim ffiars'. (Yr ymadrodd
> > tafodieithol cyfatebol
> > >> yn y de fyddai 'Jiw, jiw!')
> > >>
> > >> Does dim byd o'i le ar 'dim ffiars' os yw'r
> > adroddiad yn un sydd wedi'i
> > >> anelu at ddarllenwyr yn y gogledd, ond os yw'n
> > adroddiad i Gymru gyfan
> > >> byddwn i'n ystyried ymadrodd mwy niwtral - 'dim
> > gobeth/gobaith'?
> > >>
> > >> 'Darllen? Fi?/Fi'n Darllen? Dim Gobaith/Gobeth'
> > neu 'Darllen? Fi?/Fi'n
> > >> Darllen? Dim Gobaith/Gobeth!'
> > >>
> > >> Posibilrwydd arall fyddai '((d)dim) byth' - 'Fi'n
> > Darllen? Byth!'
> > >>
> > >> Berwyn
> > >>
> > >>  ----- Original Message -----
> > >> *From:* annes gruffydd <[log in to unmask]>
> > >> *To:* [log in to unmask]
> > >>   *Sent:* Monday, July 14, 2008 8:00 AM
> > >> *Subject:* Re: Me read? No Way!
> > >>
> > >> Diolch John - isio cadarnhad on i na doeddwn i
> > ddim yn cymyd cam gwag ne'n
> > >> deud rwbath ych a pych
> > >>
> > >> Annes
> > >>
> > >> 2008/7/13 john.puw <[log in to unmask]>:
> > >>
> > >>> Cynnig ardderchog. Mae'n anodd iawn gwella arno
> > yn fy marn i.
> > >>>
> > >>> Hwyl
> > >>>
> > >>> John
> > >>>
> > >>> Sent using BlackBerry(R) from Orange
>  > >>>
> > >>> ------------------------------
> > >>> *From*: annes gruffydd <[log in to unmask]>
> > >>> *Date*: Sun, 13 Jul 2008 20:45:00 +0200
> > >>> *To*: <[log in to unmask]>
> > >>> *Subject*: Me read? No Way!
> > >>>
> > >>>   Dyma deitl y ddogfen am ddarllenwyr sal neu
> > sy'n ded na dydyn nhw ddim
> > >>> yn ddarllenwyr (diolch, gyda llaw, am yr
> > ymatebion i 'non-reeaders'- wedi
> > >>> penderfynu deud 'na fyddan nhw ddim yn darllen'.
> > Mae'r ddogfen yn son am
> > >>> strategaethau i wella medrau darllen bechgyn ond
> > hyd y gwela i byrdwn y peth
> > >>> ydi bod rhai bechgyn yn cefnu ar ddarllen. Felly
> > dyna ddylia fod yn y teitl
> > >>> yn hytrach na fedran nhw ddim. Mae'r Saesneg yn
> > gallu bod yn mwys wrth gwrs
> > >>> a fedran ni ddim. Be dach chi'ei feddwl o'r
> > cynnig yma?
> > >>>
> > >>> Darllen - fi? Dim ffiars!
> > >>>
> > >>>  Dwi wedi rhoi darllen a a fi yn y drefn honno,
> > achos fel arall byddai
> > >>> angen dau ofynnod ac mi fyddai hynna'n mynd yn
> > fler.
> > >>>
> > >>> Diolch ymlaen llaw am unrhyw syniada mwy bachog
> > >>>
> > >>> Annes
> > >>>
> > >>>
> > >> No virus found in this incoming message.
> > >> Checked by AVG - http://www.avg.com
> > >> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.10/1550
> > - Release Date: 13/07/2008 17:58
> > >>
> > >>
> > >
> >
>