Ymadrodd gogleddol yw 'dim ffiars'. (Yr ymadrodd tafodieithol cyfatebol yn y de fyddai 'Jiw, jiw!')Does dim byd o'i le ar 'dim ffiars' os yw'r adroddiad yn un sydd wedi'i anelu at ddarllenwyr yn y gogledd, ond os yw'n adroddiad i Gymru gyfan byddwn i'n ystyried ymadrodd mwy niwtral - 'dim gobeth/gobaith'?'Darllen? Fi?/Fi'n Darllen? Dim Gobaith/Gobeth' neu 'Darllen? Fi?/Fi'n Darllen? Dim Gobaith/Gobeth!'Posibilrwydd arall fyddai '((d)dim) byth' - 'Fi'n Darllen? Byth!'Berwyn----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffyddTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Monday, July 14, 2008 8:00 AMSubject: Re: Me read? No Way!Diolch John - isio cadarnhad on i na doeddwn i ddim yn cymyd cam gwag ne'n deud rwbath ych a pychAnnes2008/7/13 john.puw <[log in to unmask]>:
Cynnig ardderchog. Mae'n anodd iawn gwella arno yn fy marn i.
Hwyl
JohnSent using BlackBerry® from Orange
From: annes gruffydd <[log in to unmask]>
Date: Sun, 13 Jul 2008 20:45:00 +0200
To: <[log in to unmask]>
Subject: Me read? No Way!
Dyma deitl y ddogfen am ddarllenwyr sal neu sy'n ded na dydyn nhw ddim yn ddarllenwyr (diolch, gyda llaw, am yr ymatebion i 'non-reeaders'- wedi penderfynu deud 'na fyddan nhw ddim yn darllen'. Mae'r ddogfen yn son am strategaethau i wella medrau darllen bechgyn ond hyd y gwela i byrdwn y peth ydi bod rhai bechgyn yn cefnu ar ddarllen. Felly dyna ddylia fod yn y teitl yn hytrach na fedran nhw ddim. Mae'r Saesneg yn gallu bod yn mwys wrth gwrs a fedran ni ddim. Be dach chi'ei feddwl o'r cynnig yma?Darllen - fi? Dim ffiars!Dwi wedi rhoi darllen a a fi yn y drefn honno, achos fel arall byddai angen dau ofynnod ac mi fyddai hynna'n mynd yn fler.Diolch ymlaen llaw am unrhyw syniada mwy bachogAnnesNo virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.10/1550 - Release Date: 13/07/2008 17:58