Rwy'n aml yn clywed am bobl yn mynd i'r siop jips.. ond i'r siop sglodion fydda i'n mynd (yn Llandudoch)!!!! ----Original Message---- From: [log in to unmask] Date: 01/07/2008 0:11 To: <[log in to unmask]> Subj: Re: sweat the ingredients Wn i ddim sut mae treulio'r chips, ond "jips" yw'r treiglad arferol. I fod yn onest, 'roeddwn i wedi meddwl mai dyna oedd y dyfyniad! Ann ----- Original Message ----- From: annes gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, July 01, 2008 12:04 AM Subject: Re: sweat the ingredients Ond sut basa treilo chips? Jips? Felly dim ond enw benywaidd sy'n treigo ar ol blydi. Diddorol iawn. Poeth. Dylai'r pwll nofio fod yn barod ymhen y rhawg (pa mor hir bynnag y bo hwnnw) Annes 2008/6/30 Ann Corkett <[log in to unmask]>: I ateb y ddau bwynt: Cadw dy blydi chips!" OND, meddai Bruce, os sonnir am enw benywaidd, cewch "y blydi ddynes 'ma" a "gormod o bali bobol". Sut mae'r tywydd draw yn yr Eidal? Cofion, Ann ----- Original Message ----- From: annes gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Monday, June 30, 2008 8:23 PM Subject: Re: sweat the ingredients A pham blydi lai /llai - ydi rhywun yn treiglo ar ol blydi? nacydi debyg iawn, mi fyddai Bedwyr yn deud Llanblydiberis heb dreiglo. Erbyn hyn dwi wedi laru gymaint ar drio dallt pa fath o support (er enghraifft) ydi o, dwi'n deud cefnogaeth ne gefnogi bob tro - os na wyddan nhw be ydi o pam ddyliwn i wbod. Chwysu amdani ddeudwn i os na dyna be sy'n digwydd i'r creaduriaid bach (a be'n union mae'n ei feddwl eniwe? - fel deudaist ti'n gynharach ffrio'n ara ond mae ffrio erbyn hyn yn air drwg tydi am ei fod yn swnio'n afiach, dyna pam dan ni'n cael yr holl char-fried ayyb er mwyn osgoi fried ar ei ben ei hun. Decini? Ydw i'n iawn? Jyst ffyrdd gwleidyddol/cogyddol gywir o ddisgrifio gwahanol fatha o ffrio am fod ffrio ar ei ben ei hun yn gneud i ni feddwl am frecwast mawr (braf) wedi'i ffrio ne gaffi grisi spwn. Annes 2008/6/30 GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]>: Wwwww, bydd rhywun yn siwr o fy nghyhuddo o gyfieithu slafaidd .... Ond dyna braf bod bywyd yn gallu bod yn syml weithiau. Diolch Mary G Mary Jones <[log in to unmask]> wrote: Eu chwysu nhw fydda i'n ei ddweud, Glenys. Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS Sent: 30 June 2008 12:47 To: [log in to unmask] Subject: sweat the ingredients Gan eich bod ar drywydd ciniawa y bore 'ma, ac os nad ydach chi i gyd yn gwrando ar Taro'r Post, fasai rhywun yn hoffi awgrymu gair am 'to sweat' yng nghyd-destun coginio? (Cynhesu'n araf - mewn padell neu sosban fel arfer - er mwyn tynnu'r sudd allan). Llawer o ddiolch. G -- This message has been scanned for viruses and dangerous content by SpamAlizer, and is believed to be clean. No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.3/1525 - Release Date: 29/06/2008 15:09 No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.3/1527 - Release Date: 30/06/2008 18:07 __________________________________________________________ Wimbledon 2008 - http://www.tiscali.co.uk/wimbledon __________________________________________________________