Wn i ddim ai fi sy’n defnyddio’r
gair anghywir am y broses anghywir, ond ‘sweat/chwysu’ i fi yw troi’r
gwres i ffwrdd ar ol cyfnod (lled fyr fel rheol), rhoi caead ar y sosban neu
beth bynnag, a gadael i’r pwr dab sy ynddi orffen coginio yn ei ‘chwys’
ei hun.
Delia (aka Mary)
From: Discussion of
Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of annes gruffydd
Sent: 30 June 2008 20:23
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: sweat the ingredients
A pham blydi lai /llai - ydi rhywun yn treiglo ar ol blydi? nacydi
debyg iawn, mi fyddai Bedwyr yn deud Llanblydiberis heb dreiglo. Erbyn hyn dwi
wedi laru gymaint ar drio dallt pa fath o support (er enghraifft) ydi o, dwi'n
deud cefnogaeth ne gefnogi bob tro - os na wyddan nhw be ydi o pam ddyliwn i
wbod. Chwysu amdani ddeudwn i os na dyna be sy'n digwydd i'r creaduriaid bach
(a be'n union mae'n ei feddwl eniwe? - fel deudaist ti'n gynharach ffrio'n ara
ond mae ffrio erbyn hyn yn air drwg tydi am ei fod yn swnio'n afiach, dyna pam
dan ni'n cael yr holl char-fried ayyb er mwyn osgoi fried ar ei ben ei hun.
Decini? Ydw i'n iawn? Jyst ffyrdd gwleidyddol/cogyddol gywir o ddisgrifio
gwahanol fatha o ffrio am fod ffrio ar ei ben ei hun yn gneud i ni feddwl am frecwast
mawr (braf) wedi'i ffrio ne gaffi grisi spwn.
Annes
2008/6/30 GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]>:
Wwwww, bydd rhywun yn siwr o fy nghyhuddo o gyfieithu slafaidd .... Ond
dyna braf bod bywyd yn gallu bod yn syml weithiau.
Diolch Mary
G
Mary Jones <[log in to unmask]>
wrote:
Eu chwysu nhw fydda i'n ei ddweud, Glenys.
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS
Sent: 30 June 2008 12:47
To: [log in to unmask]
Subject: sweat the ingredients
Gan eich bod ar drywydd ciniawa y bore 'ma, ac os nad ydach chi i gyd yn gwrando ar Taro'r Post, fasai rhywun yn hoffi awgrymu gair am 'to sweat' yng nghyd-destun coginio? (Cynhesu'n araf - mewn padell neu sosban fel arfer - er mwyn tynnu'r sudd allan).
Llawer o ddiolch.
G
--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.
--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.