Print

Print


Efallai fy mod wedi colli rhywbeth, ond pam rydych chi'n meddwl bod pobl yn sôn am "y Gors Einon"?

Os mai cors Einon oedd hon yn wreiddiol, byddai pobl yn mynd i gors Einon.
Mae pobl yr ardal yn dweud "yn Gyfyrddin" ac felly "yn Gorseinon"
Hawdd fyddai i'r ffurf "Gorseinon" ddatblygu felly.

Ydi hynny'n gwneud synnwyr?

Aha!:
http://mysite.wanadoo-members.co.uk/someplacenames/page2.html

GORSEINON / CORS EINON

Corseinon 1717 CMA Trevecka 2 NLW;
Gorseinon 1764-65 Welsh Piety;
Gorseinon village 1764-65 WP
Corse Inon 1799 Yates Map
Corseynon fawr 1824 Penllergaer B NLW;
Gorseinon Station 1878 OS; 

Until 1873 the place-name Gorseinon, or more correctly, Corseinon, referred to a farm, a small village and some common land located in Llangyfelach parish near the present day village of Penlle’rgaer. The Gorseinon village of 1764-5 above is at this location.



On 27 Jun 2008, at 12:20, Ann Corkett wrote:

Mae'n ddrwg gen i am eich drysu, wrth drio dychmygu sut daeth yr enw i fod.

Wedi bod yn trafod a Bruce pam y gallai pobl fod wedi son am "y gors Einon", os mai enw unigolyn oedd Einon.  'Deos ganddo fo ddim syniad, chwaith, heblaw eu bod nhw efallai'n arfer clywed y treiglad mewn cyfuniadau fel "y gors las" ayb.

Erbyn hyn, MAE'N DEBYG, y byddai'n rhesymol meddwl y clywir "yn Gorseinon" ar lafar (ydy hyn yn wir?) a gweld "yn y Gorseinon" mewn dogfennau.

Ann

----- Original Message ----- From: "Huw Garan" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 27, 2008 12:06 PM
Subject: ATB: Yn Dyffryn (!)


'I Gorseinon', ond yng Ngorseinon neu yng Nghorseinon?

Dim ond gofyn

Hg

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 27 June 2008 11:03
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Yn Dyffryn (!)

Dyma eithriad iti Howard - i Gorseinon (yn hytrach nag i Orseinon)

(a dim isio trafod pam ydw i, dwi'n gwybod pam, dim ond isio dangos bod
eithriadau'n gallu digwydd!)

oddi wrth
Eraint

----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 27, 2008 8:57 AM
Subject: Yn Dyffryn (!)


Treiglir enwau lleoedd Cymraeg. Ni wn am unrhyw eithriad, ac nid derbyniol
anwybyddu'r rheol hon.
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 0.0.0/0 - Release Date: <unknown> 00:00


--------------------------------------------------------------------------------



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1521 - Release Date: 26/06/2008 11:20