Print

Print


Mae newydd wawrio arnaf mai dyma'r un egwyddor y mae dysgwyr Cymraeg yn ei dysgu, efallai heb wybod y cefndir, yn eu hail wers - bod y Cymry yn mynd i'R gwely (to bed), i'R ysbyty (to hospital) ac i'R gwaith (to work).

Wnes i ddim deall pam chwaith, nes imi drio cyfieithu adroddiad cyfarfod Clwb Jas Aberystwyth oedd yn dweud rhywbeth fel "with X on saxophone and Y on keyboard". Ysgrifennais "X ar sacsoffon ac Y ar allweddell". Eglurodd Bruce, oherwydd nad oes bannod amhenodol (a/an) yn y Gymraeg, fel arfer mae'r "a[n]" yn gynwysedig yn ystyr enw ar ben ei hun, felly mae "X ar sacsoffon" yn golygu "X on A saxophone, lle dylai fod "X on THE saxophone" a "'dw i'n mynd i wely" yn golygu "I'm going to A bed".

Felly, byddai "Dw i'n mynd i Ddyffryn" yn golygu "I'm going to a valley" - ac felly byddai'n swnio ar lafar. Byddai "Dw i'n byw yn Nyffryn" yn swnio fel gwall dysgwr am "mewn Dyffryn" - mae'n gadael y gwrandaw-wr yn yr awyr yn disgwyl cael gwybod PA ddyffryn. Fel mae Sylvia'n dweud, mae "yn Bontnewydd" "yn Gellilydan", "yn Benllech" ayb yn dangos bod y fannod benodol (y) yn ddealledig ar lafar.  (Mae angen cofio hyn wrth ddefnyddio Cysill, sy'n ceisio treiglo yn y ffordd arferol)

Mae rhai o'r enwau hyn wedi'u rhestru yn y "Gazetteer" a'r fannod ar eu hol, rhai hebddi.  Mae'n debyg y byddai'n fwy cywir ysgrifennu "y Benllech", "y Bontnewydd", "y Gellilydan, "y Gorseinon" ac ati mewn dogfennau ffurfiol, ond nid yw hynny'n gorfodi neb i gynnwys y fannod wrth siarad.

Ann (gyda chymorth Bruce yn y paragraff olaf!)

----- Original Message -----

From: Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]>

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, June 27, 2008 9:34 AM
Subject: Re: yn Dyffryn

Cytuno - ym Mhorthaethwy, ond yn y Borth; ym Mlaenau Ffestiniog, ond yn y Blaenau - oherwydd eu bod nhw'n enwau cyffredin, medde Bruce.
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Gorwel Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, June 27, 2008 8:58 AM
Subject: Re: yn Dyffryn

Yn ‘y Dyffryn’ fyddai’n well o bosib

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 27 June 2008 08:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: yn Dyffryn

 

Dwn i ddim a yw'n "dderbyniol" ond fe gytunwn i bod 'yn Nyffryn' yn swnio braidd yn rhyfedd am y lle gan mai "yn Dyffryn" mae pobl yn ei ddweud. Falle mai rhoi'r enw llawn "yn Nyffryn Ardudwy" yw'r ateb? Mae'r treiglad yn swnio'n iawn wedyn.

Osian

 

Mae 'yn Nyffryn' yn swnio'n chwithig i mi. Ydi hi'n dderbyniol i
ddweud 'yn Dyffryn' (sef Dyffryn, Ardudwy)?
Diolch.
dafydd

 



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1521 - Release Date: 26/06/2008 11:20



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1521 - Release Date: 26/06/2008 11:20