Print

Print


Bore da,

Tybed ga i'ch cyngor chi? Dw i'n gweithio mewn sefydliad addysg uwch sydd â'r arwyddair "Gweddw crefft heb ei dawn", yn Gymraeg yn unig. Weithiau cynigir cyfieithiad Saesneg ohono mewn cromfachau mewn deunydd marchnata ac ati, a'r cyfieithiad sydd wedi ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer yw "Technical skill is bereft without culture". Mae myfyriwr wedi cysylltu â ni (Swyddfa'r Iaith Gymraeg) i holi: "Ydy'r fersiwn Saesneg yn iawn? Ydy dawn yn wir yn golygu diwylliant?".

Ein greddf ni yw cadw at yr hen gyfieithiad, yn rhannol gan ei fod yn hen gyfieithiad, ond hefyd gan y byddai cyfieithiad mwy caeth yn swnio braidd yn rhyfedd, falle. Fentra i ddweud bod y cyfieithiad yn gwneud mwy o synnwyr na'r gwreiddiol?! Neu falle mai fi sydd heb ddeall y gwreiddiol yn iawn...

Oes gan rywun ryw oleuni neu farn am hyn? Ydych chi'n credu bod y cyfieithiad Saesneg yn dderbyniol fel y mae? Gan fod rhywun wedi cysylltu i holi, ro'n i'n meddwl y bydde cael barn arbenigwyr yn ddefnyddiol.

Diolch yn faswr,

Osian