'Dw i'n anfon yr uchod o ran hwyl - disgrifiad
o gais cynllunio mewn set o cofnodion Cynllunio.
Dyma ran o'r disgrifiad hwy yn yr agenda a gefais
gan y clerc fel cefndir i'r gwaith:
"The application site comprises of a redundant
rural outbuilding and is attached to another former outbulding which has since
been converted into a residential unit, i.e. Ysgubor."
Dw i'n meddwl y gallaf osgoi amwysedd trwy
ychwanegu dyfynodau (Ysgubor nesaf at "Ysgubor"), ond tybed beth fydd enw'r annedd newydd?
Gyda llaw, cefais fwy o drafferth ynghylch yr
"adjoining" - a ddylwn i gyfieithu "adjoining", sydd yn y testun i'w
gyfieithu, ynteu "attached to" fel sydd yn y papurau cefndiriol?
Bruce sydd wedi darparu'r ateb.
Ann