Llawer o ddiolch, Sian.
 
'Dyn ni yn ol wrthi'n cyfieithu rhagor o deitlau lluniau i'r un ffotgraffydd ag o'r blaen, ac efallai bydd y rhai newydd o ddiddordeb ichi, gan y bydd yr arddangosfa gyntaf yng Nghaffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn, a lluniau o'r Nant ydyn nhw (a bydd llyfr ohonynt wedyn - o na!).  Mae'r llun dan sylw yn dangos bythynnod y Nant gyda'r chwarel reit tu ol iddynt, a'r teitl Saesneg yw "A Close Working Relationship".  Awgrym Bruce yw'r llinell o'r emyn, ond 'dw i'n amau a gaiff ei dderbyn gan nad yw'r artist fel arfer yn hoffi defnyddio dyfyniadau sy'n dod o'r tu allan i'w brofiad ei hun (ond mae'r llun o storom eira'n nesu dros y mor, gyda'r teitl "And then there was Silence" yn gwahodd "tawelwch fu").
 
Cofion gorau,
 
Ann
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Siân Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, June 25, 2008 11:42 PM
Subject: Re: Gwaith a gorffwys bellach wedi mynd yn un

Moelwyn oedd awdur y geiriau, gyda llaw, ac fe'i cenir ar y dôn Brynaber neu Tyddyn Llwyn.

On 25 Jun 2008, at 23:32, Ann Corkett wrote:

Tybed a wyr rhywun ffynhonnell y dyfyniad uchod, os gwelwch yn dda?
 
Gyda llaw, wrth chwilio'r We amdano cefais fod rhywun wedi bod wrthi'n cofnodi cerrig beddau Alsop en le Dale, Swydd Derby:
"Margaret SHERRATT, 30 Nov 1956, 67
Walter, h, 20 Aug 1964, 74
Gwaith a gorffwys
Bellach wedimynclynum" ... priodol iawn, mae'n debyg, bod "wedi mynd yn un" wedi mynd yn un ...
 
Diolch yn fawr iawn,
 
Ann



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1519 - Release Date: 25/06/2008 16:13