Llawer o ddiolch, Sian. 'Dyn ni yn ol wrthi'n cyfieithu rhagor o deitlau lluniau i'r un ffotgraffydd ag o'r blaen, ac efallai bydd y rhai newydd o ddiddordeb ichi, gan y bydd yr arddangosfa gyntaf yng Nghaffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn, a lluniau o'r Nant ydyn nhw (a bydd llyfr ohonynt wedyn - o na!). Mae'r llun dan sylw yn dangos bythynnod y Nant gyda'r chwarel reit tu ol iddynt, a'r teitl Saesneg yw "A Close Working Relationship". Awgrym Bruce yw'r llinell o'r emyn, ond 'dw i'n amau a gaiff ei dderbyn gan nad yw'r artist fel arfer yn hoffi defnyddio dyfyniadau sy'n dod o'r tu allan i'w brofiad ei hun (ond mae'r llun o storom eira'n nesu dros y mor, gyda'r teitl "And then there was Silence" yn gwahodd "tawelwch fu"). Cofion gorau, Ann ----- Original Message ----- From: Siân Roberts To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, June 25, 2008 11:42 PM Subject: Re: Gwaith a gorffwys bellach wedi mynd yn un Moelwyn oedd awdur y geiriau, gyda llaw, ac fe'i cenir ar y dôn Brynaber neu Tyddyn Llwyn. On 25 Jun 2008, at 23:32, Ann Corkett wrote: Tybed a wyr rhywun ffynhonnell y dyfyniad uchod, os gwelwch yn dda? Gyda llaw, wrth chwilio'r We amdano cefais fod rhywun wedi bod wrthi'n cofnodi cerrig beddau Alsop en le Dale, Swydd Derby: "Margaret SHERRATT, 30 Nov 1956, 67 Walter, h, 20 Aug 1964, 74 Gwaith a gorffwys Bellach wedimynclynum" ... priodol iawn, mae'n debyg, bod "wedi mynd yn un" wedi mynd yn un ... Diolch yn fawr iawn, Ann ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1519 - Release Date: 25/06/2008 16:13