Ie, dw i'n deall beth rwyt ti'n feddwl ond efallai ei fod yn fwy o ddisgrifiad nag o idiom. Weithiau, mae peryg i ni fod yn rhy ofalus am "ddylanwad priod-ddull Saesneg" ac mae hwn yn swnio'n debyg i "cymryd lle" ac "ysgrifennu i lawr". Dw i'n deall "cym[h]athu" wrth sôn am ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr - yn yr ystyr "make alike" (gw GyrA) ond dw i ddim yn meddwl ei fod yn addas yma. Mae GyrA yn cynnig "derbyn/dysgu/amgyffred" yng nghyd-destun gwybodaeth. Dw i ddim yn siwr. Beth am "deall"? --- "john.puw" <[log in to unmask]> wrote: > Mae 'take in' yn un o gyfystyron assimilate yn ol > thesawrws Word, ond roeddwn yn ama 'cymryd i mewn' > fel idiom am rhyw reswm! > ------Original Message------ > From: SIAN ROBERTS > Sender: Discussion of Welsh language technical > terminology and vocabulary > To: [log in to unmask] > ReplyTo: Discussion of Welsh language technical > terminology and vocabulary > Sent: 19 Jun 2008 18:22 > Subject: Re: assimilate > > Beth am "cymryd i mewn"? > > --- Huw Garan <[log in to unmask]> wrote: > > > The ability to assimilate complex information > > > > Beth mae pobl yn ei ddefnyddio, ogydd? > > > > Hefyd, oes rhywun arall yn cael trafferth i > gysylltu > > â Term Cymru? > > > > Diolch > > > > Hg > > > > > > P Meddyliwch am yr amgylchedd - a oes wir angen > > argraffu'r ebost hwn? > > Please consider the environment - do you really > need > > to print this email? > > > > > > > Sent using BlackBerry® from Orange