Mae dolen Claire wedi fy atgoffa am y newid ystyr a gafwyd yn y gair "issues" dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf. Ers talwm, byddwn yn cyfieithu'r term hwn gyda'r gair "materion" neu "ystyriaethau"; ond bellach mae'n amlwg bod "issues" yn cael ei ddefnyddio gan amlaf fel mwythair am "problems" -- a "problemau" y byddaf yn ei ddefnyddio i gyfieithu'r gair yn amlach na heb erbyn hyn. Wyn