Gan ei fod yn derm mor fanwl, dw i'n meddwl y byddai'n well cadw'n weddol agos at y Saesneg.
Dw i'n hoffi cynigion John Emyr.

On 3 Jun 2008, at 14:24, John Emyr wrote:

O dan "scan" yn GyA, ar gyfer "to scan the horizon", ceir "craffu/syllu ar y gorwel".  Oherwydd y modd y defnyddir "craffu" (am "scrutiny") byddai "syllu" yn fwy addas i'r cyd-destun dan sylw.  Yna, gan feddwl am derm gweddol hwylus a chryno, beth am "gorwel-syllu", "gorwel-syllu ffurfiol", etc.?
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Huws
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, June 03, 2008 1:55 PM
Subject: Horizon Scanning

P'nawn da bawb 
Oes unrhyw un wedi digwydd dod ar draws yr uchod? Roeddwn i'n ystyried defnyddio rhywbeth cyffredinol fel 'edrych i'r dyfodol', ond ddim yn siwr a yw hynny'n rhy amhenodol. I gymhlethu pethau ymhellach defnyddir yr ymadrodd 'formal horizon scanning'! Dw i wedi dod o hyd i'r diffiniad canlynol ar wefan Defra:

“The systematic examination of potential threats, opportunities and likely future developments
which are at the margins of current thinking and planning. Horizon scanning may explore novel and unexpected issues, as well as persistent problems or trends.

Yn ddiolchgar am unrhyw awgrymiadau.

Rhian Huws 
Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist 
Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health 
14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road 
Caerdydd/Cardiff 
CF11 9LJ 
Ffôn/Telephone: 029 20227744 
Ebost/Email: [log in to unmask] 
Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn - diolch /  Please consider the environment before printing this email - thank you





No virus found in this incoming message.
Checked by AVG. 
Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.24.4/1474 - Release Date: 30/05/2008 07:44