Mae'r Blaid Werdd yn enghraifft berffaith.
 
Y Blaid Werdd = The Green Party
Plaid Gwyrdd = Green Plaid - h.y. petai PLaid Cymru'n penderfynu cyhoeddi eu bod nhw'n wyrdd.
 
Yr un fath efo'r Urdd -
Urdd Gwyrdd = yr Urdd yn cyhoeddi eu bod nhw'n wyrdd.
yr Urdd Werdd = the Green Order (beth bynnag fyddai honno)
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Siân Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, June 14, 2008 12:02 AM
Subject: Re: Urdd Gwyrdd

Na. Dyna'r pwynt. 
Fel y dywedais i ddoe, dwi'n meddwl, tyswn i'n sefydlu mudiad i warchod yr amgylchedd, mae'n eitha posib y byswn yn ei alw'n "Yr Urdd Werdd" neu hyd yn oed "Urdd Werdd".
Ond fel enw ar ymgyrch Urdd Gobaith Cymru i warchod yr amgylchedd, mae'n swnio'n chwithig.
Ydych chi'n cytuno â hynny?

On 13 Jun 2008, at 23:19, Mary Jones wrote:

Odych chi’n ‘confused’ / cael eich drysu gan ‘Y Blaid Werdd’ hefyd? Fyddech chi’n dweud mai ‘Plaid Gwyrdd’ fyddai orau, h.y. y Blaid sy’n Wyrdd?
Y broblem, yn fy marn i, yw na ddewisodd y mudiad ddefnyddio ‘Yr Urdd yn Wyrdd’. Fel hynny fe fydden nhw wedi cadw’u hodl a’u ‘teitl byr bachog’ heb dynnu nyth cacwn ar eu penne. Mae’r ffaith na wnaed hynny’n arwyddocaol, rwy’n credu.
Mary

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 13 June 2008 18:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Rhag ofn bod rhywun yn cyfri'r pleidleisiau, dw i hefyd yn teimlo mai "Urdd Gwyrdd" sy'n naturiol yn fan hyn. Beth bynnag am y rheolau gramadegol, a dw i'n eitha ceidwadol (ond yn gwella), dw i'n cydymdeimlo â'r rhesymau yn neges ddwetha Sian -- i fi fyddai "Urdd Werdd" ddim yn cyfleu'r neges o gwbl. Falle bod Urdd Gobaith Cymru jyst yn wahanol? Dw i ddim yn meddwl bod sôn Efa am "gyfleu'r neges" yn nawddoglyd i blant Cymru, achos taswn i'n gweld arwydd mawr yn rhwle yn dweud "Urdd Werdd" mi fyddwn i'n confused fy hunan!

Ta waeth, mwynhewch y penwythnos bawb!

Osian



Sgwennodd Siân Roberts:
Dydw i ddim yn treio newid yr iaith - i mi, gair benywaidd yw urdd.
Yn fy marn i, slogan yw hwn yn cynnwys dau air. Urdd - Gwyrdd.

Yn ôl fy ngreddf i, a'r gŵr a'r meibion (dydi'r ferch ddim yn gwirioni run fath!) dydi "Urdd Werdd" ddim yn gweithio. Dydw i ddim yn siwr pam.  Ydi pawb ohonoch chi sy'n dadlau yn erbyn "Urdd Gwyrdd" yn hapus ag "Urdd Werdd" fel enw ar gyfer ymgyrch amgylcheddol Urdd Gobaith Cymru?

I gymryd enghreifftiau David - Dw i'n meddwl y byddai 'Cymdeithas Werdd' yn gweithio - hyd yn oed pe bai'n sôn am ymgyrch gan gymdeithas benodol fel Cymdeithas yr Iaith.
Fyddai "Swyddfa Werdd" ddim yn gweithio pe bai'n sôn am y Swyddfa Bost.

Efallai mai'r rheswm yw bod Cymdeithas yr Iaith yn un o nifer o gymdeithasau.  Nid 'swyddfa' yw'r Swyddfa Bost.
Nid un o nifer o "urddau" tebyg yw'r Urdd.  I bob pwrpas dyna'r unig "urdd" - does dim cysylltiad ym meddwl pobl rhwng yr Urdd ag Urdd Sant Ioan nac urddau mynachod na myfyrwyr.
Pe bai rhywun yn gweld pennawd "Urdd Werdd", y cwestiwn y byddai'n ofyn yw "Pa urdd yw hon?"
Ydi hynny'n gwneud synnwyr?

Efallai fod fy rhesymeg i'n simsan ond mae ngreddf i'n gref!

Hwyl
Siân

On 13 Jun 2008, at 13:39, Saunders, Tim wrote:
Nid mater o gytuno yw e. Yn aml iawn, mae rhai o'r dywediadau hyn yn dân ar groen rhywun. Byddai rhai'n dadlau - ac yn hollol gywir - taw 'Timotheus' yw sillafiad cywir f'enw i. )Yn wir, byddent yn llygaid eu lle yn mynnu y dylwn i ysgrifennu Timoqeus!) Ond, o ddechrau gyda honni cywiro enwau, dywediadau parod, ayyb, ar sail gramadeg, nid oes sail i wrthwynebu cywiro ar sail crefyddol, athronyddol, gwleidyddol, esthetaidd, ayyb.
 
Tim

Tim Saunders
Cyfieithydd //// Translator/
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf ////// Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit/
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000 
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.

/////
//This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful./

   -----Original Message-----
   *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
   vocabulary [mailto:[log in to unmask]]*On Behalf
   Of *David Bullock
   *Sent:* 13 June 2008 13:33
   *To:* [log in to unmask]
   <mailto:[log in to unmask]>
   *Subject:* Re: Urdd Gwyrdd

   Wel, mae'n rhaid inni gyfadde bod newidiadau yn yr iaith wedi codi
   allan o fympwy unigolion o'r blaen – cymerwch y boi Salesbury 'na
   a newidiodd sillafiad y gair am 'his' neu 'hers' o y i ei – ond
   dwedwch y gwir, ble mae'r rhesymeg mewn dweud "Urdd Gwyrdd –
   mudiad yw e"?
       Beth nesa… Cymru bach – tîm rygbi yw e, buwch mawr – anifail yw e,
   cyfrol cofiadwy – llyfr yw e.
       Y peth yw, os rhowch chi rwydd hynt i un unigolyn mympwyol gael ei
   ffordd, beth wnewch chi â'r un nesa, a'r un nesa? (Ac efallai y
   byddwch chi'n anghytuno â nhw, cofiwch?)
                   ------------------------------------------------------------------------
   *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical
   terminology and
   vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar
   ran *Geraint Lovgreen
   *Anfonwyd/Sent:* 13 Mehefin 2008 12:46
   *At/To:* [log in to unmask]
   <mailto:[log in to unmask]>
   *Pwnc/Subject:* Re: Urdd Gwyrdd

       Meddai Ann - "Mae'n wir bod newid yn digwydd ym mhob iaith, ond
   proses raddol yr arferai hyn fod, byddwn i'n meddwl. "
       Sut yden ni'n gwybod nad rhan o broses raddol ydi hyn rwan????

       ----- Original Message -----
       *From:* Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]>
       *To:* [log in to unmask]
       <mailto:[log in to unmask]>
       *Sent:* Friday, June 13, 2008 9:54 AM
       *Subject:* Urdd Gwyrdd
               Gyfeillion!
               Mae rhywun wedi gofyn imi a geisiais ganiatad Prif Weithredwr
       yr Urdd cyn "cyhoeddi" ei llythyr, a soniwyd y byddai gwneud
       hynny heb ganiatad yn anghwrtais ac yn gosod sail arfer gwael.
       Mae hi'n anodd dadlau a hynny.
               Y cyfan y gallaf ei ddweud yw imi ysgrifennu, yn fy neges
       gyntaf at y Prif Weithredwr, "Byddwn i'n falch o gael eich
       sylwadau cyn imi lunio llythyr at y wasg". Cymerais yn
       ganiataol felly nad oedd dim byd yn yr ymateb na hoffai ei
       weld mewn print. Sylweddolaf rwan y dylwn i naill ai fod wedi
       datgan yn fwy penodol y byddwn, o bosibl, yn dyfynnu o'i
       neges, neu gadarnhau wedyn ei bod hi'n fodlon imi'i wneud, a
       byddaf yn dweud hyn wrthi.

       'Rwy'n egluro hyn, yn gyntaf rhag ofn i bobl feddwl y gwaethaf
       ohonof; yn ail, rhag ofn i rai feddwl bod cyhoeddi llythyrau
       preifat heb ganiatad yn arfer cymeradwy; ac yn drydydd, rhag
       ofn na fydd neb yn anfon dim neges breifat ddiddorol ataf byth
       mwy!

       Wedi dweud hynny, 'rwy'n falch iawn bod y drafodaeth wedi
       digwydd ymhlith y cylch. 'Rwyf wedi fy syfrdanu gan farn rhai
       o'r cyfieithwyr a gyfrannodd, ond ar ol pendroni ar eu
       negeseuon, ac ar negeseuon i'r gwrthwyneb, 'rwy'n teimlo'n
       sicrach fyth o seiliau fy marn wreiddiol - bod "Urdd Gwyrdd"
       yn anghywir ac yn annoeth.

       Mae'n wir bod newid yn digwydd ym mhob iaith, ond proses
       raddol yr arferai hyn fod, byddwn i'n meddwl. Gyda chyfathrebu
       pellgyrhaeddol, a'r urddas ac awdurdod y gall argraffu a
       dylunio eu rhoi, gall ymadrodd a grewyd gan un cyfieithydd,
       neu gan bwyllgor bach, ddylanwadu ar arferion ieithyddol
       cenhedlaeth o blant. Dyna faint ein cyfrifoldeb.

       ('Dw i'n mynd i ffwrdd am gwpl o ddyddiau ymhen chwarter awr,
       felly os na chewch ymateb i unrhyw neges, fydd hi ddim o
       ddiffyg rhywbeth i'w ddweud!)

       Ann

        
        
       

-- 
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr 
[log in to unmask]
Ffôn/Tel:       01248 383253 (allanol/external)
               est/ext 3253 (mewnol/internal)

>^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<

-- 
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office.  www.bangor.ac.uk


-- 
This message has been scanned for viruses and 
dangerous content by SpamAlizer, and is 
believed to be clean.