Odych chi’n ‘confused’ / cael eich drysu gan ‘Y Blaid Werdd’ hefyd? Fyddech chi’n dweud mai ‘Plaid Gwyrdd’ fyddai orau, h.y. y Blaid sy’n Wyrdd? Y broblem, yn fy marn i, yw na ddewisodd y mudiad ddefnyddio ‘Yr Urdd yn Wyrdd’. Fel hynny fe fydden nhw wedi cadw’u hodl a’u ‘teitl byr bachog’ heb dynnu nyth cacwn ar eu penne. Mae’r ffaith na wnaed hynny’n arwyddocaol, rwy’n credu. Mary _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys Sent: 13 June 2008 18:56 To: [log in to unmask] Subject: Re: Urdd Gwyrdd Rhag ofn bod rhywun yn cyfri'r pleidleisiau, dw i hefyd yn teimlo mai "Urdd Gwyrdd" sy'n naturiol yn fan hyn. Beth bynnag am y rheolau gramadegol, a dw i'n eitha ceidwadol (ond yn gwella), dw i'n cydymdeimlo â'r rhesymau yn neges ddwetha Sian -- i fi fyddai "Urdd Werdd" ddim yn cyfleu'r neges o gwbl. Falle bod Urdd Gobaith Cymru jyst yn wahanol? Dw i ddim yn meddwl bod sôn Efa am "gyfleu'r neges" yn nawddoglyd i blant Cymru, achos taswn i'n gweld arwydd mawr yn rhwle yn dweud "Urdd Werdd" mi fyddwn i'n confused fy hunan! Ta waeth, mwynhewch y penwythnos bawb! Osian Sgwennodd Siân Roberts: Dydw i ddim yn treio newid yr iaith - i mi, gair benywaidd yw urdd. Yn fy marn i, slogan yw hwn yn cynnwys dau air. Urdd - Gwyrdd. Yn ôl fy ngreddf i, a'r gŵr a'r meibion (dydi'r ferch ddim yn gwirioni run fath!) dydi "Urdd Werdd" ddim yn gweithio. Dydw i ddim yn siwr pam. Ydi pawb ohonoch chi sy'n dadlau yn erbyn "Urdd Gwyrdd" yn hapus ag "Urdd Werdd" fel enw ar gyfer ymgyrch amgylcheddol Urdd Gobaith Cymru? I gymryd enghreifftiau David - Dw i'n meddwl y byddai 'Cymdeithas Werdd' yn gweithio - hyd yn oed pe bai'n sôn am ymgyrch gan gymdeithas benodol fel Cymdeithas yr Iaith. Fyddai "Swyddfa Werdd" ddim yn gweithio pe bai'n sôn am y Swyddfa Bost. Efallai mai'r rheswm yw bod Cymdeithas yr Iaith yn un o nifer o gymdeithasau. Nid 'swyddfa' yw'r Swyddfa Bost. Nid un o nifer o "urddau" tebyg yw'r Urdd. I bob pwrpas dyna'r unig "urdd" - does dim cysylltiad ym meddwl pobl rhwng yr Urdd ag Urdd Sant Ioan nac urddau mynachod na myfyrwyr. Pe bai rhywun yn gweld pennawd "Urdd Werdd", y cwestiwn y byddai'n ofyn yw "Pa urdd yw hon?" Ydi hynny'n gwneud synnwyr? Efallai fod fy rhesymeg i'n simsan ond mae ngreddf i'n gref! Hwyl Siân On 13 Jun 2008, at 13:39, Saunders, Tim wrote: Nid mater o gytuno yw e. Yn aml iawn, mae rhai o'r dywediadau hyn yn dân ar groen rhywun. Byddai rhai'n dadlau - ac yn hollol gywir - taw 'Timotheus' yw sillafiad cywir f'enw i. )Yn wir, byddent yn llygaid eu lle yn mynnu y dylwn i ysgrifennu Timoqeus!) Ond, o ddechrau gyda honni cywiro enwau, dywediadau parod, ayyb, ar sail gramadeg, nid oes sail i wrthwynebu cywiro ar sail crefyddol, athronyddol, gwleidyddol, esthetaidd, ayyb. Tim Tim Saunders Cyfieithydd //// Translator/ Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf ////// Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit/ Ty Trevithick Abercynon Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ Ffôn +44-(0)-1443-744000 Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon. ///// //This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council. The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. It is intended only for the person or entity named above. If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful./ -----Original Message----- *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]*On Behalf Of *David Bullock *Sent:* 13 June 2008 13:33 *To:* [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> *Subject:* Re: Urdd Gwyrdd Wel, mae'n rhaid inni gyfadde bod newidiadau yn yr iaith wedi codi allan o fympwy unigolion o'r blaen – cymerwch y boi Salesbury 'na a newidiodd sillafiad y gair am 'his' neu 'hers' o y i ei – ond dwedwch y gwir, ble mae'r rhesymeg mewn dweud "Urdd Gwyrdd – mudiad yw e"? Beth nesa… Cymru bach – tîm rygbi yw e, buwch mawr – anifail yw e, cyfrol cofiadwy – llyfr yw e. Y peth yw, os rhowch chi rwydd hynt i un unigolyn mympwyol gael ei ffordd, beth wnewch chi â'r un nesa, a'r un nesa? (Ac efallai y byddwch chi'n anghytuno â nhw, cofiwch?) ------------------------------------------------------------------------ *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Geraint Lovgreen *Anfonwyd/Sent:* 13 Mehefin 2008 12:46 *At/To:* [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> *Pwnc/Subject:* Re: Urdd Gwyrdd Meddai Ann - "Mae'n wir bod newid yn digwydd ym mhob iaith, ond proses raddol yr arferai hyn fod, byddwn i'n meddwl. " Sut yden ni'n gwybod nad rhan o broses raddol ydi hyn rwan???? ----- Original Message ----- *From:* Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]> *To:* [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> *Sent:* Friday, June 13, 2008 9:54 AM *Subject:* Urdd Gwyrdd Gyfeillion! Mae rhywun wedi gofyn imi a geisiais ganiatad Prif Weithredwr yr Urdd cyn "cyhoeddi" ei llythyr, a soniwyd y byddai gwneud hynny heb ganiatad yn anghwrtais ac yn gosod sail arfer gwael. Mae hi'n anodd dadlau a hynny. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw imi ysgrifennu, yn fy neges gyntaf at y Prif Weithredwr, "Byddwn i'n falch o gael eich sylwadau cyn imi lunio llythyr at y wasg". Cymerais yn ganiataol felly nad oedd dim byd yn yr ymateb na hoffai ei weld mewn print. Sylweddolaf rwan y dylwn i naill ai fod wedi datgan yn fwy penodol y byddwn, o bosibl, yn dyfynnu o'i neges, neu gadarnhau wedyn ei bod hi'n fodlon imi'i wneud, a byddaf yn dweud hyn wrthi. 'Rwy'n egluro hyn, yn gyntaf rhag ofn i bobl feddwl y gwaethaf ohonof; yn ail, rhag ofn i rai feddwl bod cyhoeddi llythyrau preifat heb ganiatad yn arfer cymeradwy; ac yn drydydd, rhag ofn na fydd neb yn anfon dim neges breifat ddiddorol ataf byth mwy! Wedi dweud hynny, 'rwy'n falch iawn bod y drafodaeth wedi digwydd ymhlith y cylch. 'Rwyf wedi fy syfrdanu gan farn rhai o'r cyfieithwyr a gyfrannodd, ond ar ol pendroni ar eu negeseuon, ac ar negeseuon i'r gwrthwyneb, 'rwy'n teimlo'n sicrach fyth o seiliau fy marn wreiddiol - bod "Urdd Gwyrdd" yn anghywir ac yn annoeth. Mae'n wir bod newid yn digwydd ym mhob iaith, ond proses raddol yr arferai hyn fod, byddwn i'n meddwl. Gyda chyfathrebu pellgyrhaeddol, a'r urddas ac awdurdod y gall argraffu a dylunio eu rhoi, gall ymadrodd a grewyd gan un cyfieithydd, neu gan bwyllgor bach, ddylanwadu ar arferion ieithyddol cenhedlaeth o blant. Dyna faint ein cyfrifoldeb. ('Dw i'n mynd i ffwrdd am gwpl o ddyddiau ymhen chwarter awr, felly os na chewch ymateb i unrhyw neges, fydd hi ddim o ddiffyg rhywbeth i'w ddweud!) Ann -- Helen Smith (Cyfieithydd/Translator) Canolfan Bedwyr [log in to unmask] Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external) est/ext 3253 (mewnol/internal) >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< -- Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office. www.bangor.ac.uk -- This message has been scanned for viruses and dangerous content by <http://www.saq.co.uk/> SpamAlizer, and is believed to be clean.