Dewi
Diolch o galon: yr union beth. Rhaid i fi ddechre
chwilio am gopi ail-law o’r llyfyr.
Mary
From: Discussion of
Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Dewi Bowen Williams
Sent: 02 June 2008 18:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: geirfa glowyr
Annwyl Mary,
Does gan Geirfa'r Glowr ddim eirfa Saesneg, felly rwyf wedi
ceisio dewis y geiriau sy'n ymddangos yn iawn. Gobeithio bydd o ryw help.
Colliers colier, coliar eg ll. coliers, coliars
Hauliers (Morg.
Caerf.) (h)alier, (h)aliar, eg ll. (h)aliers
(h)aliars,
(Rhos)
clynwr
Enginemen gyrrwr y soni eg y sawl a ofalai am y soni
sef y peiriant ar ben y gwaith a dynnai’r siwrneion (Rhos)
Rippers ripwr eg (Morg)
Labourers labrwr, (Morg,
Caerf)
Fitters ?
pystwr eg un a fyddai’n gosod y pyst dan ddaear (D Morg)
Examiners ffyiarman eg
ei waith oedd nodi ac archwilio llefydd dan
ddaear a oedd yn anniogel oblegid nwy;
âi o gwmpas
y gwaith bob dydd cyn I’r glowyr dechrau arni. (Morg, Caerf, Rhos)
Ropemen rhaffwr eg
ll. rhaffwrs
Repairers riparwr eg
ll. riparwyr, (Morg,
Caerf) coediwr (Parlwr Du, Rhos)
Assistants ail law eg
math o labrwr, un a gynorthwyai weithiwr profiadol
neu grefftwr
crotyn eg
ll. crots; bachgen ifanc,
dyn
a chrotyn—roedd yn arferol I lowyr
gael crots I’w cynorthwyo wrth eu
gwaith ((Morg.)
Doorboys bachgen tendio’r drws, (Rhos) drwswr (Morg, Caerf)
Dewi.
Dewi
Diolch yn fawr. Termau unigol sy gen i,
sef:
Colliers
Hauliers – haliwrs?
Enginemen
Rippers
Labourers – labrwrs?
Fitters
Examiners
Ropemen
Repairers
Assistants
Doorboys
Byddai unrhyw beth yn help.
Mary
From: Discussion of
Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of Dewi Williams
Sent: 02 June 2008 17:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: geirfa glowyr
Annwyl Mary,
Mae gen i'r llyfr uchod wrth law. Dywedwch pa ymadrodd - oedd gennych dan
sylw.
Dewi
Date: Mon, 2 Jun 2008 14:27:17 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Mwg a Mwg
To: [log in to unmask]
Yr unig ffordd sy’n gywir yw sgrifennu
‘mwg’ (mug) gydag acen yn dod am i lawr, fel hyn mẁg (ydy hynna’n dangos ar
eich sgrin chi? Mae yn Symbols dan Tools.) Byddai sgrifennu ‘mwg’ (smoke) gyda
hirnod mŵg yn anghywir oherwydd mae’r W yn hir beth bynnag, a’r hyn sydd
eisiau yw dangos ei bod yn fyr yn mwg (mug).
Yn gyfnewid am hynny, all rhywun fy
nghyfeirio i at wefan lle mae geirfa glowyr ar gael, os gwelwch chi’n dda? Dydy
llyfr Lynn Davies ddim gen i a dydy rhai o’r termau Saesneg sy gen i ddim yn yr
Academi chwaith. Unrhyw obaith? Diolch ymlaen llaw.
Mary
From: Discussion of
Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of annes gruffydd
Sent: 02 June 2008 14:06
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Mwg a Mwg
Jyst o ran hwyl dyro i ni enghraifft o pryd fyddai'r cyd-destun ddim yn
amlwg.
Annes
2008/6/2 Puw, John <[log in to unmask]>:
Sut fyddech chi'n gwahaniaethu rhwng mwg a mwg os nad yw'r
cyd-destun yn amlwg?
Diolch
John
John Puw
GRNCM; TAR / PGCE;
Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Full Member of Association of Welsh
Translators and Interpreters
Cyfieithydd / Translator
Uned Gyfieithu / Translation Unit
Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department
Ffôn / Tel: 01492 805135
Est / Ext: 05135
E-bost / E-mail: [log in to unmask]
Gwefan
/ Website: http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY
|
--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.
--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.
--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by
SpamAlizer, and is
believed to be clean.