Wel, mae’n rhaid inni gyfadde bod newidiadau yn yr iaith wedi codi allan o fympwy unigolion o’r blaen – cymerwch y boi Salesbury ’na a newidiodd sillafiad y gair am ‘his’ neu ‘hers’ o y i ei – ond dwedwch y gwir, ble mae’r rhesymeg mewn dweud “Urdd Gwyrdd – mudiad yw e”? Beth nesa… Cymru bach – tîm rygbi yw e, buwch mawr – anifail yw e, cyfrol cofiadwy – llyfr yw e. Y peth yw, os rhowch chi rwydd hynt i un unigolyn mympwyol gael ei ffordd, beth wnewch chi â’r un nesa, a’r un nesa? (Ac efallai y byddwch chi’n anghytuno â nhw, cofiwch?) _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen Anfonwyd/Sent: 13 Mehefin 2008 12:46 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Urdd Gwyrdd Meddai Ann - "Mae'n wir bod newid yn digwydd ym mhob iaith, ond proses raddol yr arferai hyn fod, byddwn i'n meddwl. " Sut yden ni'n gwybod nad rhan o broses raddol ydi hyn rwan???? ----- Original Message ----- From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett To: [log in to unmask] Sent: Friday, June 13, 2008 9:54 AM Subject: Urdd Gwyrdd Gyfeillion! Mae rhywun wedi gofyn imi a geisiais ganiatad Prif Weithredwr yr Urdd cyn "cyhoeddi" ei llythyr, a soniwyd y byddai gwneud hynny heb ganiatad yn anghwrtais ac yn gosod sail arfer gwael. Mae hi'n anodd dadlau a hynny. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw imi ysgrifennu, yn fy neges gyntaf at y Prif Weithredwr, "Byddwn i'n falch o gael eich sylwadau cyn imi lunio llythyr at y wasg". Cymerais yn ganiataol felly nad oedd dim byd yn yr ymateb na hoffai ei weld mewn print. Sylweddolaf rwan y dylwn i naill ai fod wedi datgan yn fwy penodol y byddwn, o bosibl, yn dyfynnu o'i neges, neu gadarnhau wedyn ei bod hi'n fodlon imi'i wneud, a byddaf yn dweud hyn wrthi. 'Rwy'n egluro hyn, yn gyntaf rhag ofn i bobl feddwl y gwaethaf ohonof; yn ail, rhag ofn i rai feddwl bod cyhoeddi llythyrau preifat heb ganiatad yn arfer cymeradwy; ac yn drydydd, rhag ofn na fydd neb yn anfon dim neges breifat ddiddorol ataf byth mwy! Wedi dweud hynny, 'rwy'n falch iawn bod y drafodaeth wedi digwydd ymhlith y cylch. 'Rwyf wedi fy syfrdanu gan farn rhai o'r cyfieithwyr a gyfrannodd, ond ar ol pendroni ar eu negeseuon, ac ar negeseuon i'r gwrthwyneb, 'rwy'n teimlo'n sicrach fyth o seiliau fy marn wreiddiol - bod "Urdd Gwyrdd" yn anghywir ac yn annoeth. Mae'n wir bod newid yn digwydd ym mhob iaith, ond proses raddol yr arferai hyn fod, byddwn i'n meddwl. Gyda chyfathrebu pellgyrhaeddol, a'r urddas ac awdurdod y gall argraffu a dylunio eu rhoi, gall ymadrodd a grewyd gan un cyfieithydd, neu gan bwyllgor bach, ddylanwadu ar arferion ieithyddol cenhedlaeth o blant. Dyna faint ein cyfrifoldeb. ('Dw i'n mynd i ffwrdd am gwpl o ddyddiau ymhen chwarter awr, felly os na chewch ymateb i unrhyw neges, fydd hi ddim o ddiffyg rhywbeth i'w ddweud!) Ann