Print

Print


Erbyn meddwl, rhaid i mi gytuno â'r ddwy ochr ... hyd ryw fan!
 
O fynd yn ôl i'r cychwyn cyntaf, 'Urdd Werdd' buaswn i wedi'i argymell, yn sicr.
 
Ond  ...
 
Gan fod y corff dan sylw wedi mabwysiadu 'Urdd Gwyrdd', ni fuaswn yn rhyfygu ymyrryd â'r dywediad.
 

Tim

Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.



This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 13 June 2008 09:54
To: [log in to unmask]
Subject: Urdd Gwyrdd

Gyfeillion!
 
Mae rhywun wedi gofyn imi a geisiais ganiatad Prif Weithredwr yr Urdd cyn "cyhoeddi" ei llythyr, a soniwyd y byddai gwneud hynny heb ganiatad yn anghwrtais ac yn gosod sail arfer gwael. Mae hi'n anodd dadlau a hynny.
 
Y cyfan y gallaf ei ddweud yw imi ysgrifennu, yn fy neges gyntaf at y Prif Weithredwr, "Byddwn i'n falch o gael eich sylwadau cyn imi lunio llythyr at y wasg". Cymerais yn ganiataol felly nad oedd dim byd yn yr ymateb na hoffai ei weld mewn print. Sylweddolaf rwan y dylwn i naill ai fod wedi datgan yn fwy penodol y byddwn, o bosibl, yn dyfynnu o'i neges, neu gadarnhau wedyn ei bod hi'n fodlon imi'i wneud, a byddaf yn dweud hyn wrthi.

'Rwy'n egluro hyn, yn gyntaf rhag ofn i bobl feddwl y gwaethaf ohonof; yn ail, rhag ofn i rai feddwl bod cyhoeddi llythyrau preifat heb ganiatad yn arfer cymeradwy; ac yn drydydd, rhag ofn na fydd neb yn anfon dim neges breifat ddiddorol ataf byth mwy!

Wedi dweud hynny, 'rwy'n falch iawn bod y drafodaeth wedi digwydd ymhlith y cylch. 'Rwyf wedi fy syfrdanu gan farn rhai o'r cyfieithwyr a gyfrannodd, ond ar ol pendroni ar eu negeseuon, ac ar negeseuon i'r gwrthwyneb, 'rwy'n teimlo'n sicrach fyth o seiliau fy marn wreiddiol - bod "Urdd Gwyrdd" yn anghywir ac yn annoeth.

Mae'n wir bod newid yn digwydd ym mhob iaith, ond proses raddol yr arferai hyn fod, byddwn i'n meddwl. Gyda chyfathrebu pellgyrhaeddol, a'r urddas ac awdurdod y gall argraffu a dylunio eu rhoi, gall ymadrodd a grewyd gan un cyfieithydd, neu gan bwyllgor bach, ddylanwadu ar arferion ieithyddol cenhedlaeth o blant. Dyna faint ein cyfrifoldeb.

('Dw i'n mynd i ffwrdd am gwpl o ddyddiau ymhen chwarter awr, felly os na chewch ymateb i unrhyw neges, fydd hi ddim o ddiffyg rhywbeth i'w ddweud!)

Ann