Print

Print


A pham blydi lai /llai - ydi rhywun yn treiglo ar ol blydi? nacydi debyg iawn, mi fyddai Bedwyr yn deud Llanblydiberis heb dreiglo. Erbyn hyn dwi wedi laru gymaint ar drio dallt pa fath o support (er enghraifft) ydi o, dwi'n deud cefnogaeth ne gefnogi bob tro - os na wyddan nhw be ydi o pam ddyliwn i wbod. Chwysu amdani ddeudwn i os na dyna be sy'n digwydd i'r creaduriaid bach (a be'n union mae'n ei feddwl eniwe? - fel deudaist ti'n gynharach ffrio'n ara ond mae ffrio erbyn hyn yn air drwg tydi am ei fod yn swnio'n afiach, dyna pam dan ni'n cael yr holl char-fried ayyb er mwyn osgoi fried ar ei ben ei hun. Decini? Ydw i'n iawn? Jyst ffyrdd gwleidyddol/cogyddol gywir o ddisgrifio gwahanol fatha o ffrio am fod ffrio ar ei ben ei hun yn gneud i ni feddwl am frecwast mawr (braf) wedi'i ffrio ne gaffi grisi spwn.
 
Annes

2008/6/30 GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]>:
Wwwww, bydd rhywun yn siwr o fy nghyhuddo o gyfieithu slafaidd .... Ond dyna braf bod bywyd yn gallu bod yn syml weithiau.
Diolch Mary
G


Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:
Eu chwysu nhw fydda i'n ei ddweud, Glenys.
Mary
 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS
Sent: 30 June 2008 12:47
To: [log in to unmask]
Subject: sweat the ingredients
 
Gan eich bod ar drywydd ciniawa y bore 'ma, ac os nad ydach chi i gyd yn gwrando ar Taro'r Post, fasai rhywun yn hoffi awgrymu gair am 'to sweat' yng nghyd-destun coginio? (Cynhesu'n araf - mewn padell neu sosban fel arfer - er mwyn tynnu'r sudd allan).
Llawer o ddiolch.
G

--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.