Mae'n ddrwg gen i am eich drysu, wrth drio dychmygu sut daeth yr enw i fod. Wedi bod yn trafod a Bruce pam y gallai pobl fod wedi son am "y gors Einon", os mai enw unigolyn oedd Einon. 'Deos ganddo fo ddim syniad, chwaith, heblaw eu bod nhw efallai'n arfer clywed y treiglad mewn cyfuniadau fel "y gors las" ayb. Erbyn hyn, MAE'N DEBYG, y byddai'n rhesymol meddwl y clywir "yn Gorseinon" ar lafar (ydy hyn yn wir?) a gweld "yn y Gorseinon" mewn dogfennau. Ann ----- Original Message ----- From: "Huw Garan" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, June 27, 2008 12:06 PM Subject: ATB: Yn Dyffryn (!) > 'I Gorseinon', ond yng Ngorseinon neu yng Nghorseinon? > > Dim ond gofyn > > Hg > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint > Lovgreen > Anfonwyd/Sent: 27 June 2008 11:03 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: Yn Dyffryn (!) > > Dyma eithriad iti Howard - i Gorseinon (yn hytrach nag i Orseinon) > > (a dim isio trafod pam ydw i, dwi'n gwybod pam, dim ond isio dangos bod > eithriadau'n gallu digwydd!) > > oddi wrth > Eraint > > ----- Original Message ----- > From: "Howard Huws" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Friday, June 27, 2008 8:57 AM > Subject: Yn Dyffryn (!) > > > Treiglir enwau lleoedd Cymraeg. Ni wn am unrhyw eithriad, ac nid derbyniol > anwybyddu'r rheol hon. > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG. > Version: 8.0.100 / Virus Database: 0.0.0/0 - Release Date: <unknown> 00:00 -------------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 8.0.101 / Virus Database: 270.4.1/1521 - Release Date: 26/06/2008 11:20