Ie, cwestiwn diddorol. Fydden i o blaid cyfieithu'r symbol i "g". Dw i'n gwbod bod symbolau fel hawlfraint yn fwy dyrys fel nododd Tim (er, fydden i o blaid (h) mewn cylch, fy hunan...) ond siawns y daw'n amlwg beth yw ystyr g unwaith y bydd rhywun wedi clicio arno?
Dwi wrthi'n cyfieithu tudalennau gwe ac mae'r symbol i ("i") yn cael ei ddefnyddio wrth ochr rhai is-benawdau. Bydd y defnyddiwr yn gallu gwasgu ar y symbol 'i' er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Mae'r cleient yn holi a fyddai defnyddio'r llythyren "g" (gwybodaeth) yn addas fan hyn gan fod y symbol "i" yn un a ddefnyddir ledled y byd i gyfleu gwybodaeth. Hynny yw, a fyddai defnyddiwr Cymraeg yn deall bod "g" yn golygu gwybodaeth, a byddai gwasgu'r symbol "g" yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn sydd dan sylw. Does dim modd egluro bod "g" yn golygu "gwybodaeth" oherwydd eu bod yn dudalennau gwe.
Mae'n bosibl y byddai'r un cwestiwn yn codi wrth gyfieithu'r symbol © (copyright)?
Byddwn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw sylwadau sydd gennych i'm helpu.