Ie, cwestiwn diddorol. Fydden i o blaid cyfieithu'r symbol i "g". Dw i'n gwbod bod symbolau fel hawlfraint yn fwy dyrys fel nododd Tim (er, fydden i o blaid (h) mewn cylch, fy hunan...) ond siawns y daw'n amlwg beth yw ystyr *g* unwaith y bydd rhywun wedi clicio arno? Dwi wrthi'n cyfieithu tudalennau gwe ac mae'r symbol i ("i") yn cael ei > ddefnyddio wrth ochr rhai is-benawdau. Bydd y defnyddiwr yn gallu gwasgu ar > y symbol 'i' er mwyn cael mwy o wybodaeth. > > > > Mae'r cleient yn holi a fyddai defnyddio'r llythyren "g" (gwybodaeth) yn > addas fan hyn gan fod y symbol "i" yn un a ddefnyddir ledled y byd i gyfleu > gwybodaeth. Hynny yw, a fyddai defnyddiwr Cymraeg yn deall bod "g" yn > golygu gwybodaeth, a byddai gwasgu'r symbol "g" yn rhoi mwy o wybodaeth am > yr hyn sydd dan sylw. Does dim modd egluro bod "g" yn golygu "gwybodaeth" > oherwydd eu bod yn dudalennau gwe. > > > > Mae'n bosibl y byddai'r un cwestiwn yn codi wrth gyfieithu'r symbol (c) > (copyright)? > > > > Byddwn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw sylwadau sydd gennych i'm helpu. > > > > >