Print

Print


Dwi wrthi'n cyfieithu tudalennau gwe ac mae'r symbol i ("i") yn cael ei
ddefnyddio wrth ochr rhai is-benawdau.  Bydd y defnyddiwr yn gallu gwasgu ar
y symbol 'i' er mwyn cael mwy o wybodaeth.

 

Mae'r cleient yn holi a fyddai defnyddio'r llythyren "g" (gwybodaeth) yn
addas fan hyn gan fod y symbol "i" yn un a ddefnyddir ledled y byd i gyfleu
gwybodaeth.  Hynny yw, a fyddai defnyddiwr Cymraeg yn deall bod "g" yn
golygu gwybodaeth, a byddai gwasgu'r symbol "g" yn rhoi mwy o wybodaeth am
yr hyn sydd dan sylw.  Does dim modd egluro bod "g" yn golygu "gwybodaeth"
oherwydd eu bod yn dudalennau gwe.

 

Mae'n bosibl y byddai'r un cwestiwn yn codi wrth gyfieithu'r symbol C
(copyright)?

 

Byddwn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw sylwadau sydd gennych i'm helpu.