Yn y Llyfrgell yn Aberystwyth maen nhw'n gwneud ymdrech deg i ddilyn cyfarwyddyd y Ddraig Werdd, sydd wedi llunio nifer o argymhellion i helpu pobl i ymroi i wella'r amgylchedd. Mae'n ymddangos yn hollol iawn defnyddio ffurf fenywaidd yr ansoddair yn y cyswllt hwn. A rhyw deimlo bod y fannod ar goll efo'r llythrennau breision, pa un a ydy o'n 'Urdd Gwyrdd' neu 'Urdd Werdd'. Yr hen odl 'na sy'n taflu pawb, dwi'n meddwl. Y peryg mawr, hefyd, hefo 'Urdd Gwyrdd' ydy ei fod o'n debygol o gamarwain yr hen blant. Mae geiriau sloganaidd yn aros yn y cof, fel y mae geiriau darn o farddoniaeth, a chan mai plant yw'r targed yma, nhw yn fwy na neb sy'n mynd i'w cofio. Onid gwell fasai ceisio osgoi hyn a chael gafael ar ddywediad bach hyd yn oed gwell i gyfleu'r neges bod 'Urdd Gobaith Cymru' yn fudiad gwyrdd. Efallai gallai'r Urdd gynnal cystadleuaeth - am y gora i roi'r neges hon mewn geira! Un peth calonogol ynglyn a'r drafodaeth yma - mae'n beth da bod ni'n poeni! Pob hwyl Eluned