Print

Print


Helo,

Mae hwn yn hen broblem gyda Word - y broblem fwya' gyffredin mae 
defnyddwyr Cysgliad yn ffonio ni yn ei gylch am gymorth.

Er gwybodaeth, rydyn ni wedi cynnwys y camau i ddatryso'r broblem yn 
nhudalen 'Cwestiynau Cyffredin' ar wefan Cysgliad. Weler :

http://www.e-gymraeg.org/cysgliad/cymraeg/cwestiynau_cyffredin.html#Defnyddio%20Cysgeir%20a%20Cysill%20o%20fewn%20Word

Hwyl,
Dewi


Ysgrifennodd Elin Davies:
> Wow!!!! Dwi wedi bod yn trio trwsio hwnna ers blynyddoedd!
>
> Diolch yn FAWR Huw, gobeithio bydd yn gweithio i Ken hefyd.
>
> Unrhyw syniad beth sy'n achosi'r broblem?
>
> 2008/5/9 Huw Garan <[log in to unmask] 
> <mailto:[log in to unmask]>>:
>
>     Ken,
>      
>     ydych chi wedi trio mynd i Offer/Tools --> Templedi ac
>     Ychwanegion/Template & Add-ins?  Os ydy Cysill wedi ei llwytho fel
>     templed, fe ddylai ymddangos yma gyda blwch i'w dicio wrth ymyl yr
>     enw.
>      
>     Os na fydd hyn yn gweithio, yn anffodus alla' i ddim meddwl beth
>     arall i'w awgrymu.
>      
>     Hg
>      
>
>     ------------------------------------------------------------------------
>     *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical
>     terminology and vocabulary
>     [mailto:[log in to unmask]
>     <mailto:[log in to unmask]>] *Ar ran *Elin Davies
>     *Anfonwyd/Sent:* 09 May 2008 23:23
>     *At/To:* [log in to unmask]
>     <mailto:[log in to unmask]>
>     *Pwnc/Subject:* Re: Cysill
>
>     Helo Ken
>
>     Dwi ddim yn gwybod os fydd hyn yn gysur neu beidio, ond mi
>     ddigwyddodd yr un peth i fi rai blynyddoedd yn ôl ac er trio
>     popeth dan haul dwi heb gael llwyddiant i'w gael yn ôl o fewn
>     word. Mae dal ar y cyfrifiadur (ar y desktop) felly dwi'n copïo a
>     gludo y testun i mewn i'r blwch, wedyn copïo a gludo yn ôl. Braidd
>     yn llafurus a weithiau'n mynd yn fler iawn, ond yr unig ateb i mi,
>     ac falle bydd yn gweithio dros dro mewn argyfwng nes bydd rhywun
>     arall yn rhoi ateb i'r broblem.
>
>     Dwi'n cofio i Catrin Alun holi yma ar ol i'r un peth ddigwydd iddi
>     hi, ond dwi ddim yn credu i neb esbonio sut i ddatrys y sefyllfa -
>     efallai ei bod wedi cael ateb o rhywle?
>
>     Pob lwc
>     Elin
>
>     2008/5/9 Ken Williams <[log in to unmask]
>     <mailto:[log in to unmask]>>:
>
>         Help - mae Cysill wedi diflannu'n sydyn oddi ar fy
>         nghyfrifiadur heb unrhyw rybudd - roedd o yna noson o'r blaen
>         ond wedi mynd erbyn heno.  Rwyf wedi trio dileu y rhaglen ac
>         ail-lwytho - ond dim llwyddiant.  Unrhyw syniadau??
>          
>         diolch am unrhyw gyngor
>          
>         ken
>
>         ------------------------------------------------------------------------
>         Get 5GB of online storage for free! Get it Now!
>         <http://clk.atdmt.com/UKM/go/msnnkmgl0010000005ukm/direct/01/>
>
>
>
>     No virus found in this incoming message.
>     Checked by AVG.
>     Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.11/1422 - Release Date:
>     08/05/2008 17:24
>
>
>     No virus found in this outgoing message.
>     Checked by AVG.
>     Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.11/1422 - Release Date:
>     08/05/2008 17:24
>
>

-- 
Dewi Bryn Jones

Uned Technolegau Iaith, / Language Technologies Unit,
Safle'r Normal,         / Normal Site,
Prifysgol Bangor,       / Bangor University,
Bangor,                 / Bangor, 
Gwynedd. LL57 2PX, UK   / Gwynedd. LL57 2PX, UK

E-Bost / E-Mail : d.b.jones at bangor.ac.uk
Gwe (Cymraeg)   : http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/technolegau_iaith.php.cy
Web (English)   : http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/technolegau_iaith.php.en
Ffôn / Tel      : +44 (0) 1248 383245 , +44 (0) 2921 250354
Skype		: cb_dewi
Rhithfro / Blog : http://murmur.bangor.ac.uk


-- 
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University
email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer