Print

Print

Aaa, ie, wela i. Nes i ddim meddwl yn drylwyr am yr ystyr  :-) . Ti'n iawn, mae'r berfenw yn rhyfedd rywsut felly yndydy. Cytuno y byddai Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygiedig) 2007 yn swnio'n well. Hefyd, mae na "amended acts" weithie yndoes, neu sôn am ddeddf "as amended by" ryw reoliad arall, sgwn i beth sydd fod yn Gymraeg am rheini.

Na , dwi ddim yn meddwl mai dyna fyddai';n gywir Osian. Nid Rheoliadau i ddiwygio Cyfrifon ac Archwilio ydyn nhw, ond diwygiad i'r Rheoliadau blaenorol (dwi'n meddwl). Felly mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2007 yn iawn er bod rhoi berfenw yn hytrach nag enw yn fy nharo i'n chwithig yn y fan lle mae. Neu gwell fyth, ella, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygiedig) 2007
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Osian Rhys
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Thursday, May 22, 2008 12:10 PM
Subject: Re: Single Equalities Bill

Dw i'n dechrau simsanu braidd beth bynnag dweud y gwir. Mae "Un Mesur Cydraddoldeb" yn iawn ar gyfer "Single Equality Bill", ond os oes/bydd "Single Equality Act 2007/8/9" byddai "Un Ddeddf Cydraddoldeb 2007/8/9" ychydig bach yn rhyfedd. Wel, dw i'n meddwl ei fod yn gywir, ond byddai'n torri'r arfer o gael "Deddf" ar y dechrau beth bynnag.

Mae fel y busnes "(amendment)" mewn enw Deddf. Er enghraifft:

Accounts and Audit (Wales) (Amendment) Regulations 2007.

I fi,

Rheoliadau (Diwygio) Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2007

fyddai'n gywir, ond

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2007

sydd yn Term Cymru (statws 1).

Jyst meddwl yn uchel...

Osian

Digon posib. Dim ond statws 4 sydd gan yr hyn a ganfu Rhian beth bynnag.  Ond y gwir yw, nid ein lle ni fel cyfieithwyr ydi penderfynu ar bethau fel hyn, does bosib!!  Felly fe ddefnyddiaf yr hyn sydd gan TermCymru am y tro gan mai dyna'r unig gynsail sydd gen i!!!

John Puw

GRNCM; TAR / PGCE;

Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Full Member of Association of Welsh Translators and Interpreters

Cyfieithydd / Translator

Uned Gyfieithu / Translation Unit

Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department

Ffôn / Tel: 01492 805135

Est / Ext: 05135

E-bost / E-mail: [log in to unmask]

Gwefan / Website: http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 22 May 2008 11:48

To: [log in to unmask]
Subject: Re: Single Equalities Bill

O ran y busnes "mesur vs deddf" dw i ddim yn siwr, dw i ddim yn siwr lle maen nhw arni...

Ond onid bwriad y "Single Equality Act" oedd/ydy cyfuno ac ychwanegu at yr holl ddeddfwriaeth flaenorol yn y blynyddoedd dwetha ar anabledd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, ac ati, mewn un ddeddf yn lle bod llwyth o wahanol dameidiau? Os felly, oni fyddai "Un Ddeddf Cydraddoldeb"
yn well?

Helo John

Wrthi chwilio am rywbeth arall mi welais i bod Single Equality Act yn TermCymru - Deddf Cydraddoldeb Unigol. Ydi hynny o ryw help?

Rhian

Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for your co-operation.

North Wales Police