Diolch yn fawr. Ia, dyna oedd y cwestiwn, ac enw ardderchog arno hefyd. Cofion cynnes Bethan 01248 723510 07713 862792 ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Saturday, May 17, 2008 4:38 PM Subject: Re: Cladophora "grug (g) mo^r" yw "Cladophora rupestris" yn ol y rhestr. Ai dyna oedd y cwestiwn, ynteu a oes angen enw mwy cyffredinol? Gyda llaw, mae'n ddrwg gen i os oeddwn i braidd yn flin (ac yn anramadegol) neithiwr - newydd yrru'r rhan fwyaf o'r ffordd o Newbury, y tu hwnt i Rydychen. 'Doeddwn i ddim am feio (sori - yn dymuno beio) Rhain am ryddhau'r rhestr - 'roedd hyn yn fownd o ddigwydd mewn awyrgylch lle mae cyfieithwyr - diolch byth - yn ceisio helpu ei gilydd a rhannu gwybodaeth. Ann ----- Original Message ----- From: Bethan Jones To: [log in to unmask] Sent: Saturday, May 17, 2008 11:40 AM Subject: Re: Cladophora Amen! Oes yna enw Cymraeg ar Cladophora? Cladophora rupestris ydi'r un mwyaf cyffredin maen debyg. Cofion cynnes Bethan 01248 723510 07713 862792 ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Saturday, May 17, 2008 12:01 AM Subject: Re: Creaduriaid yr Acwariwm Ie, dyma'r rhestr y treuliodd Bruce a Llyr gymaint o amser arni - a finnau gymaint o amser yn ei ail-fformatio. Fel y dywedais beth amser yn ol, anfonais at y CCW i ofyn pryd y byddai atebion ar gael i rai cwestiynau gwyddonol (gan nad oedd modd cadarnhau rhai enwau heb wybod yr atebion), a phryd y byddid yn rhyddhau'r rhestr. Dywedwyd wrthyf fod y CCW wedi rhyddhau'r rhestr i'w cyfieithwyr, ond nad oeddent am iddi fod ar gael yn gyhoeddus oherwydd materion hawlfraint cymhleth (nad af i mewn iddynt yma), ac y gobeithid derbyn atebion i'r cwestiynau gwyddonol cyn bo hir, ac efallai rhyddhau'r rhestr trwy Gymdeithas Edward Llwyd. Dyna pam 'rwyf wedi ateb cwestiynau unigol ynghylch enwau creaduriaid mor, yn hytrach nag anfon copi o'r rhestr at bawb. Mae'n biti bod yr holl oedi wedi golygu bod rhestr anorffenedig wedi'i ryddau i bawb, heb ei chyflwyniad, a bron yn ddamweiniol, yn lle cael gorffen y gwaith unwaith ac am byth a'i ryddhau'n swyddogol. ----- Original Message ----- From: Rhian Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 13, 2008 8:57 AM Subject: Re: Creaduriaid yr Acwariwm Helo Tegwen Ges i'r rhestr yma gan y Cyngor Cefn Gwlad rywdro. Tebyg i'r un sydd gan Ann falle? Rhian ------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.16/1429 - Release Date: 12/05/2008 18:14 ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.16/1448 - Release Date: 16/05/2008 19:42