----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">GLENYS ROBERTSTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Wednesday, May 07, 2008 11:35 PMSubject: Re: Emynau'r BedyddwyrSôn am brifathrawon o'r hen ddyddiau, sgwn i a oes 'na rywun arall o Langefni sy'n cofio prifathro'r Ysgol Gyfun, E. D. Davies yn galw 'Gosteg!' ar ddechrau gwasanaethau? A buan y tawelai'r storm!Diolch yn fawr i Glenys, Linda a Sian - yr oedd eich negeseuon yn f'aros pan ddes yn ol o'r gwasanaethau (prynhawn a gyda'r nos), felly mae'n gysur nad oedd 'na ddim cyfieithiadau gennych i'w cynnig. Fi oedd ar fai yn llwyr; dylwn fod wedi edrych trwy'r rhaglen a meddwl am holi'n gynharach o lawer.Gyda llaw, yr emyn a'm ddaliodd y tro diwethaf oedd "Distewch, cans mae presenoldeb Crist, y sanctaidd un, gerllaw." Mae'n cychwyn yn y Saesneg efo "Be still", sydd ddim *cweit* mor ddrwg a chael cynulleidfa'n bloeddio "distewch" fel rhyw athro ysgol o'r hen ddyddiau.Diolch unwaith eto.Ann----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Siân RobertsTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Wednesday, May 07, 2008 3:11 PMSubject: Re: Emynau'r BedyddwyrNia Lewis biau'r dôn - felly mae'n eitha posib nad oes fersiwn Saesneg - eto beth bynnag!Siân
On 7 May 2008, at 14:58, Linda Griffiths wrote:
Peter M. Thomas o Aberystwyth sydd biau geiriau Cerddwn Ymlaen i'r Yfory - bron yn siwr nad oes yna gyfieithiad ar gael, ond gallai Peter gadarnhau hynny.Linda----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">GLENYS ROBERTSSent: Wednesday, May 07, 2008 2:28 PMSubject: Re: Emynau'r BedyddwyrNewydd edrych yn y Llawlyfr Moliant Newydd Ann, ac mae hwnnw'n cynnwys dau o'r emynau eraill, sef 'Wrth rodio gyda'r Iesu ar y daith' a 'Iesu, clywaf sw^n dy eiriau'. Rhoddir enw Ben Davies o dan y cyntaf a Gwili o dan yr ail - dim sôn mai cyfieithiadau ydyn nhw. Ond efallai eich bod yn gwybod hyn!Dim goleuni i'w gael ar 'Cerddwn ymlaen i'r yfory, chwifiwn faner yn y gwynt'. Petai golwg Mam yn well, baswn yn gofyn iddi edrych yn ei chopi o'r hen Lawlyfr Moliant.Llawer o ddiolch, Martin.Ann----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">martin daviesSent: Wednesday, May 07, 2008 1:15 AMSubject: Re: Emynau'r BedyddwyrBydd yn wrol.. = Courage brother, do not stumble.
Date: Wed, 7 May 2008 00:03:50 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Emynau'r Bedyddwyr
To: [log in to unmask]
Mae'n hwyr iawn imi ofyn hyn, gan fod angen yr wybodaeth y prynhawn 'ma, ond tybed a oes 'na fersiynau Saesneg o unrhyw rai o'r emynau isod. Nid wyf yn gofyn i neb fynd i'r drafferth o deipio'r emynau, dim ond rhoi'r llinellau cyntaf fel y gallaf chwilio amdanynt mewn llyfrau emynau neu ar y We:Wrth rodio gyda'r Iesu ar y daithCerddwn ymlaen i'r yfory, chwifiwn faner yn y gwyntIesu, clywaf swn dy eiriau draw o fin y lliBydd yn wrol, paid a llithro er mor dywyll yw y daith.Cofiaf gyfieithu emyn cyfan ar gyfer gwasanaeth arbennig, a dim ond dau di-Gymraeg yn wahoddedigion yno, ond iddynt ddweud wrthyf wedyn mai cyfieithiad o'r Saesneg oedd yr emyn yn y lle cyntaf! Fel mae'n digwydd, defnyddir yr un emyn yfory, felly 'dw i'n barod amdani, ond nid oes arnaf eisiau gwneud yr un peth eto gydag emyn arall.Llawer o ddiolch,Ann
Invite your Facebook friends to Messenger! Get Started!
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.9/1418 - Release Date: 06/05/2008 17:17
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.9/1420 - Release Date: 07/05/2008 14:12