Mae rhywun wedi gofyn i mi gyfieithu "Sweet Singer of Sirhowy". Pan holais i am y cyd-destun, fe ddywedon nhw mai disgrifiad o'r bardd Islwyn (William Thomas) oedd hwn ac roedden nhw'n cymryd mai cyfieithiad o'r Gymraeg oedd y Saesneg. Wela i ddim byd yn y Bywgraffiadur na'r Cydymaith sy'n cyfateb i "Sweet Singer of Sirhowy"- oes rhywun yn gwybod a oes rhyw ymadrodd tebyg yn y Gymraeg i ddisgrifio Islwyn? Diolch Siān