Helo,

Mae hwn yn hen broblem gyda Word - y broblem fwya' gyffredin mae defnyddwyr Cysgliad yn ffonio ni yn ei gylch am gymorth.

Er gwybodaeth, rydyn ni wedi cynnwys y camau i ddatryso'r broblem yn nhudalen 'Cwestiynau Cyffredin' ar wefan Cysgliad. Weler :

http://www.e-gymraeg.org/cysgliad/cymraeg/cwestiynau_cyffredin.html#Defnyddio%20Cysgeir%20a%20Cysill%20o%20fewn%20Word

Hwyl,
Dewi


Ysgrifennodd Elin Davies:
[log in to unmask]" type="cite">Wow!!!! Dwi wedi bod yn trio trwsio hwnna ers blynyddoedd!

Diolch yn FAWR Huw, gobeithio bydd yn gweithio i Ken hefyd.

Unrhyw syniad beth sy'n achosi'r broblem?

2008/5/9 Huw Garan <[log in to unmask]>:
Ken,
 
ydych chi wedi trio mynd i Offer/Tools --> Templedi ac Ychwanegion/Template & Add-ins?  Os ydy Cysill wedi ei llwytho fel templed, fe ddylai ymddangos yma gyda blwch i'w dicio wrth ymyl yr enw.
 
Os na fydd hyn yn gweithio, yn anffodus alla' i ddim meddwl beth arall i'w awgrymu.
 
Hg
 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Elin Davies
Anfonwyd/Sent: 09 May 2008 23:23
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Cysill

Helo Ken

Dwi ddim yn gwybod os fydd hyn yn gysur neu beidio, ond mi ddigwyddodd yr un peth i fi rai blynyddoedd yn ôl ac er trio popeth dan haul dwi heb gael llwyddiant i'w gael yn ôl o fewn word. Mae dal ar y cyfrifiadur (ar y desktop) felly dwi'n copïo a gludo y testun i mewn i'r blwch, wedyn copïo a gludo yn ôl. Braidd yn llafurus a weithiau'n mynd yn fler iawn, ond yr unig ateb i mi, ac falle bydd yn gweithio dros dro mewn argyfwng nes bydd rhywun arall yn rhoi ateb i'r broblem.

Dwi'n cofio i Catrin Alun holi yma ar ol i'r un peth ddigwydd iddi hi, ond dwi ddim yn credu i neb esbonio sut i ddatrys y sefyllfa - efallai ei bod wedi cael ateb o rhywle?

Pob lwc
Elin

2008/5/9 Ken Williams <[log in to unmask]>:
Help - mae Cysill wedi diflannu'n sydyn oddi ar fy nghyfrifiadur heb unrhyw rybudd - roedd o yna noson o'r blaen ond wedi mynd erbyn heno.  Rwyf wedi trio dileu y rhaglen ac ail-lwytho - ond dim llwyddiant.  Unrhyw syniadau??
 
diolch am unrhyw gyngor
 
ken


Get 5GB of online storage for free! Get it Now!


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.11/1422 - Release Date: 08/05/2008 17:24


No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG.
Version: 7.5.524 / Virus Database: 269.23.11/1422 - Release Date: 08/05/2008 17:24



-- 
Dewi Bryn Jones

Uned Technolegau Iaith, / Language Technologies Unit,
Safle'r Normal,         / Normal Site,
Prifysgol Bangor,       / Bangor University,
Bangor,                 / Bangor, 
Gwynedd. LL57 2PX, UK   / Gwynedd. LL57 2PX, UK

E-Bost / E-Mail : d.b.jones at bangor.ac.uk
Gwe (Cymraeg)   : http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/technolegau_iaith.php.cy
Web (English)   : http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/technolegau_iaith.php.en
Ffôn / Tel      : +44 (0) 1248 383245 , +44 (0) 2921 250354
Skype		: cb_dewi
Rhithfro / Blog : http://murmur.bangor.ac.uk
-- Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma: www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here: www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer