Dw i ddim yn deall y maes ond tybed ydi e'n awgrymu eich bod yn defnyddio llawer o ymadroddion allweddol i'w wneud yn fwy tebygol y bydd peiriannau chwilio'n dod o hyd i chi? Hynny yw, "text rich in key phrases" - "rich" yn yr un ystyr ā "flower rich meadows" - dolydd lle ceir llawer o flodau. Hwyl Siān On 6 Apr 2008, at 22:46, Elin Davies wrote: > Wel, sgen i'm syniad yma! Dyma'r frawddeg yn llawn, mae'n dod mewn > rhestr o > bwyntiau bwled ar sut i wneud y gorau o allweddeiriau er mwyn i > safleoedd > megis Google eich gosod ar ben eu rhestr. > > Increase the amount of keyphrase rich text on each page > > Dwi ddim yn siwr a ddylwn i gyfieithu'r 'rich text' neu beidio i > ddechrau > gan bod RTF fel arfer yn cael ei gadw yn y Saesneg yn tydi? Ydi'r > rich text > yma yr un rich text ag RTF? > > Diolch yn fawr iawn o flaen llaw am unrhyw gymorth > Elin